RHAN 3Cymorth a chydweithrediad o dan Deitl IV ac adennill treuliau

Dyletswyddau awdurdodau dynodedigI18

Rhaid i awdurdod dynodedig hysbysu Gweinidogion Cymru os yw’n ystyried nad yw’n gallu cymryd camau sy’n ofynnol mewn unrhyw achos unigol o dan Deitl IV (cymorth gweinyddol a chydweithrediad) a rhaid iddo ddarparu unrhyw wybodaeth y gwneir cais rhesymol amdani i Weinidogion Cymru.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 8 mewn grym ar 31.1.2020, gweler rhl. 1(2)

Hwyluso cymorth a chydweithrediadI29

1

At ddibenion cynorthwyo awdurdod cymwys o Aelod-wladwriaeth arall fel a ddarperir yn Erthygl 104, neu alluogi Gweinidogion Cymru neu awdurdod dynodedig i wneud hynny, caiff arolygydd sy’n arfer pwerau o dan ddeddfwriaeth berthnasol i fynd i fangre neu i arolygu cofnodion—

a

mynd â swyddogion awdurdodedig awdurdod cymwys gwlad arall gydag ef,

b

dangos cofnodion i’r swyddogion awdurdodedig hynny sy’n mynd gydag ef, ac

c

gwneud copïau o’r cofnodion ar eu cyfer, neu ei gwneud yn ofynnol i gopïau o’r cofnodion gael eu gwneud ar eu cyfer.

2

At ddibenion hwyluso ymweliad gan dîm arolygu fel a ddarperir yn Erthygl 108, caiff arolygydd fynd â chynrychiolwyr o Gomisiwn yr UE gydag ef wrth arfer pwerau o dan ddeddfwriaeth berthnasol i fynd i fangre ac arolygu cofnodion.

3

Caniateir ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddarparu i swyddog gorfodi unrhyw gymorth, unrhyw wybodaeth neu unrhyw gyfleusterau sy’n rhesymol ofynnol gan y swyddog at ddiben gweithredu neu orfodi’r Rheoliadau hyn neu Reoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 9 mewn grym ar 31.1.2020, gweler rhl. 1(2)

Adennill treuliauI310

1

Caniateir codi unrhyw dreuliau y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod dynodedig yn mynd iddynt wrth gyflawni gweithgareddau gorfodi o dan y Rheoliadau hyn, neu fesurau o dan Erthygl 66, 67, 69 neu 138 ar y gweithredwr busnes perthnasol a rhaid talu’r treuliau hynny pan gyflwynir archiad ysgrifenedig amdanynt.

2

Caniateir adennill unrhyw swm sy’n ddyledus o dan y Rheoliadau hyn ac nad yw wedi ei dalu—

a

fel dyled sifil;

b

o dan orchymyn llys, yn unol ag unrhyw delerau y mae’r llys yn eu gorchymyn.