Adennill treuliauLL+C
10.—(1) Caniateir codi unrhyw dreuliau y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod dynodedig yn mynd iddynt wrth gyflawni gweithgareddau gorfodi o dan y Rheoliadau hyn, neu fesurau o dan Erthygl 66, 67, 69 neu 138 ar y gweithredwr busnes perthnasol a rhaid talu’r treuliau hynny pan gyflwynir archiad ysgrifenedig amdanynt.
(2) Caniateir adennill unrhyw swm sy’n ddyledus o dan y Rheoliadau hyn ac nad yw wedi ei dalu—
(a)fel dyled sifil;
(b)o dan orchymyn llys, yn unol ag unrhyw delerau y mae’r llys yn eu gorchymyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 10 mewn grym ar 31.1.2020, gweler rhl. 1(2)