RHAN 4Gorfodi a chosbau
Gorfodi ac erlyn11
1
Cyfrifoldeb yr awdurdod cymwys neu awdurdod dynodedig yw gorfodi’r Rheoliadau hyn a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE.
2
Mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu mewn unrhyw achos penodol, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod y Rheoliadau hyn i’w gorfodi gan Weinidogion Cymru yn hytrach nag awdurdod lleol.