RHAN 5Diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anifeiliaid, bwyd a masnach
Diwygio Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 201425.
Yn rheoliad 4(1)(c)(iii) o’r Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 201439, yn lle “Erthygl 22(1)” rhodder “Erthygl 138 (camau gweithredu os cadarnheir achos o fethu â chydymffurfio) o Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion40”.