RHAN 5LL+CDiwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anifeiliaid, bwyd a masnach

Diwygio Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014LL+C

25.  Yn rheoliad 4(1)(c)(iii) o’r Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014(1), yn lle “Erthygl 22(1)” rhodder “Erthygl 138 (camau gweithredu os cadarnheir achos o fethu â chydymffurfio) o Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion(2)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 25 mewn grym ar 31.1.2020, gweler rhl. 1(2)

(1)

O.S. 2014/951 (Cy. 92), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

OJ Rhif L 95, 7. 4.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.5.2019, t. 4).