RHAN 6LL+CDiwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â ffioedd iechyd planhigion

Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018LL+C

34.—(1Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle rheoliad 2 rhodder—

2.(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” yw Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion(2).

(2) Mae i eiriau ac ymadroddion nad ydynt wedi eu diffinio yn y Rheoliadau hyn ac y mae’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn ymddangos yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu yn Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion(3) yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag sydd gan yr ymadroddion Saesneg cyfatebol yn yr offeryn UE o dan sylw.

(3Yn rheoliad 3—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “a restrir yn Atodlen 5 i Orchymyn 2018” rhodder “a ddisgrifir yn rhestrau’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol sy’n gymwys at ddibenion Erthyglau 72(1) a 74(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE”;

(b)ym mharagraff (3)—

(i)yn lle is-baragraffau (a) ac (aa) rhodder—

(a)ystyr “pla planhigion a reolir” yw—

(i)pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn rhestrau’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol sy’n gymwys at ddibenion Erthyglau 5(2), 32(3) a 37(2) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE;

(ii)unrhyw bla planhigion arall o ddisgrifiad a bennir mewn penderfyniad a fabwysiedir cyn 14 Rhagfyr 2019 gan y Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 16(3) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i ddiogelu rhag cyflwyno i’r Gymuned organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion a rhag eu lledaenu o fewn y Gymuned(4);

(aa)mae “Ewrop” yn cynnwys Belarus, yr Ynysoedd Dedwydd, Georgia, Kazakhstan (ac eithrio’r ardal i’r dwyrain o afon Ural), Rwsia (ac eithrio rhanbarthau Tyumen, Chelyabinsk, Irkutsk, Kemerovo, Kurgan, Novossibirsk, Omsk, Sverdlovsk, Tomsk, Chita, Kamchatka, Magadan, Amur a Skhalin, tiriogaethau Krasnoyarsk, Altay, Khabarovsk a Primarie, a gweriniaethau Sakha, Tuva a Buryatia), Ukrain a Thwrci (ac eithrio’r ardal i’r dwyrain o Gulfor Bosphorus o’r enw Anatolia);;

(ii)ar ôl is-baragraff (ab) mewnosoder—

(aba)ystyr “y Rheoliad Amodau Ffytoiechydol” yw’r act weithredu a fabwysiadwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthyglau 5(2), 32(2), 37(2), 37(4), 40(2), 41(2), 53(2), 54(2), 72(1), 73, 74(2), 79(2) a 80(2) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE;;

(iii)hepgorer is-baragraff (c).

(4Yn rheoliad 4—

(a)ym mharagraff (2), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), ar ôl “a gynhelir” mewnosoder “gan, neu ar ran, Gweinidogion Cymru”;

(b)ym mharagraff (6)(a), hepgorer “a roddir o dan erthygl 29 o Orchymyn 2018”.

(5Yn rheoliad 5—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn is-baragraff (a), ar y diwedd mewnosoder “a wneir i Weinidogion Cymru”;

(ii)yn is-baragraff (b), ar y diwedd mewnosoder “a roddir gan Weinidogion Cymru”;

(b)ym mharagraff (5), yn lle “trwydded a ddisgrifir yn erthygl 40 neu 41 o Orchymyn 2018” rhodder “awdurdodiad at ddibenion unrhyw randdirymiad a ddisgrifir yn Erthygl 8(1) neu 48(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE”.

(6Ar ôl rheoliad 5 mewnosoder—

Gwasanaethau tystysgrifau allforio a gwasanaethau cyn-allforio: ffioedd

5A.(1) Mae’r ffioedd a bennir yn y tabl yn Atodlen 4A yn daladwy mewn cysylltiad â’r gwasanaethau a ddisgrifir yng ngholofn 1 o’r tabl gan berson sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru am dystysgrif neu am wasanaeth cyn-allforio.

(2) Swm y ffi mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaeth a ddisgrifir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 4A yw—

(a)yn achos allforiwr bach nad yw, ar ddyddiad y cais, ond wedi bod yn atebol yn ystod y flwyddyn ariannol pan wneir y cais i dalu ffioedd o £750 neu lai mewn cysylltiad â’r gwasanaethau a ddisgrifir yng ngholofn 1 o’r tabl, y swm a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw;

(b)mewn unrhyw achos arall, y swm a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw.

(3) Mae’r ffioedd a bennir yng ngholofnau 2 a 3 o’r tabl yn Atodlen 4A mewn cysylltiad ag arolygiad o lwyth neu archwiliad o arolygiad grawn yn daladwy ar gyfer pob 15 munud (neu ran ohono) a dreuliwyd yn cynnal yr arolygiad neu’r archwiliad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig, yn ddarostyngedig i isafswm y ffioedd a bennir yn y cofnodion hynny.

(4) Pan fo person yn cyflwyno cais am dystysgrif neu wasanaeth cyn-allforio neu’n cyflwyno archiad i ddiwygio tystysgrif ar bapur (ac nid ar-lein), mae’r ffi ychwanegol a ganlyn yn daladwy mewn cysylltiad â’r cais neu’r archiad—

(a)yn achos allforiwr bach nad yw, ar ddyddiad y cais neu’r archiad, ond wedi bod yn atebol yn ystod y flwyddyn ariannol pan wneir y cais neu’r archiad i dalu ffioedd o £750 neu lai mewn cysylltiad â’r gwasanaethau a ddisgrifir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 4A, £7.88;

(b)mewn unrhyw achos arall, £15.76.

(5) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “allforiwr bach” (“small exporter”) yw person—

(a)

yn y flwyddyn ariannol y gwneir y cais neu’r archiad—

(i)

nad yw’n berson trethadwy at ddibenion Deddf Treth ar Werth 1994(5); neu

(ii)

nad yw’n cyflenwi’n drethadwy blanhigion, cynhyrchion planhigion, hadau, pridd neu beiriannau amaethyddol at ddibenion Deddf Treth ar Werth 1994; neu

(b)

yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn pan wneir y cais neu’r archiad, sydd wedi allforio nwyddau a thystysgrif gyda hwy yr oedd cyfanswm eu gwerth yn llai na £5,000;

ystyr “gwasanaeth cyn-allforio” (“pre-export service”) yw unrhyw arolygiad neu archwiliad iechyd planhigion, gan gynnwys cymryd samplau, y mae’n ofynnol ei gynnal mewn perthynas â phlanhigyn, cynnyrch planhigyn neu wrthrych arall sydd i’w allforio i drydedd wlad er mwyn bodloni gofynion ffytoiechydol y drydedd wlad, ac eithrio unrhyw arolygiad neu archwiliad sy’n ofynnol er mwyn dyroddi tystysgrif;

ystyr “tystysgrif” (“certificate”) yw naill ai tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ail-allforio.

(7Yn rheoliad 6(1), yn lle “arolygydd” rhodder “arolygydd iechyd planhigion swyddogol”.

(8Hepgorer rheoliad 7.

(9Yn rheoliad 11—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “fasnachwr planhigion cofrestredig” rhodder “weithredwr proffesiynol cofrestredig”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “masnachwr” rhodder “gweithredwr”;

(b)hepgorer paragraff (2).

(10Ar ôl Atodlen 4 mewnosoder—

Rheoliad 5A

ATODLEN 4ALL+CFfioedd gwasanaethau tystysgrifau allforio a gwasanaethau cyn-allforio

(1)

Gwasanaeth

(2)

Ffi – allforiwr bach (£)

(3)

Ffi – allforiwr arall (£)

Arolygiad o lwyth31.90 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 63.8063.80 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 127.60
Archwiliad o arolygiad grawn13.20 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 26.4026.40 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 52.80
Archwiliad mewn labordy (gan gynnwys profion labordy)16.78 am bob sampl a brofir33.56 am bob sampl a brofir
Dyroddi tystysgrif12.76 am bob tystysgrif25.52 am bob tystysgrif
Diwygio tystysgrif ar archiad yr allforiwr7.88 am bob tystysgrif15.76 am bob tystysgrif.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 34 mewn grym ar 31.1.2020, gweler rhl. 1(2)

(2)

OJ L 317, 23.11.2016, t. 4, a ddiwygiwyd gan Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1).

(3)

OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, a ddiwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.3.2019, t. 4).

(4)

OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2019/523 (OJ Rhif L 86, 28.3.2019, t. 41).