- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
35.—(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 2 rhodder—
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdodiad DPP” (“WPM authorisation”) yw awdurdodiad a ddisgrifir yn Erthygl 98(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE;
ystyr “awdurdodiad pasbort planhigion” (“plant passport authority”) yw awdurdodiad a ddisgrifir yn Erthygl 89(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE;
ystyr “y Gorchymyn” (“the Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005(2);
ystyr “gwaith adfer” (“remedial work”) yw unrhyw gamau a gymerir gan berson at ddibenion cydymffurfio â hysbysiad adfer, neu gan arolygydd o dan erthygl 32(1) o’r Gorchymyn;
ystyr “hysbysiad adfer” (“remedial notice”) yw hysbysiad a gyflwynir o dan erthygl 31(1) neu (4) o’r Gorchymyn;
ystyr “llwyth a reolir” (“controlled consignment”) yw llwyth—
a gyflwynir i Gymru o drydedd wlad, a
sy’n, neu sy’n cynnwys—
rhisgl wedi ei wahanu o fath a ddisgrifir yn rhestrau’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol sy’n gymwys at ddibenion Erthyglau 72(1) a 74(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, neu mewn penderfyniad a fabwysiedir cyn 14 Rhagfyr 2019 gan y Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 16(3) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau gwarchod yn erbyn cyflwyno i’r Gymuned organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion a rhag eu lledaenu yn y Gymuned(3);
pren o fath a ddisgrifir yn y rhestrau neu mewn penderfyniad a grybwyllir yn is-baragraff (i) ac eithrio deunydd pecynnu pren a ddefnyddir mewn gwirionedd wrth gludo gwrthrychau o bob math;
mae i “man arolygu a gymeradwywyd” yr ystyr a roddir i “approved place of inspection” yn erthygl 3 o’r Gorchymyn;
ystyr “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” (“the EU Plant Health Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fesurau gwarchod yn erbyn plâu planhigion(4);
ystyr “trwydded” (“licence”) yw awdurdodiad at ddibenion unrhyw randdirymiad a ddisgrifir yn Erthygl 8(1) neu 48(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE.
(2) Mae i eiriau ac ymadroddion nas diffinnir yn y Rheoliadau hyn ac y mae’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn ymddangos yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu yn Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion(5) yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag sydd gan yr ymadroddion Saesneg cyfatebol yn yr offeryn UE o dan sylw.”
(3) Yn rheoliad 3, ar ôl paragraff (5) mewnosoder—
“(5A) Y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais i Weinidogion Cymru am dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ail-allforio yw’r ffi a bennir yn Atodlen 4A.
(5B) Y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais i Weinidogion Cymru am awdurdodiad DPP yw’r ffi a bennir yn Atodlen 4B.”
(4) Ar ôl Atodlen 4 mewnosoder—
Rheoliad 3(5A)
(1) Gwasanaeth | (2) Ffi |
---|---|
Ystyried cais, gan gynnwys dyroddi tystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ail-allforio pan fo hynny’n briodol | £15.00 |
Archwilio neu brofi planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa): | |
(a) hyd at a chan gynnwys yr awr gyntaf; | £27.00 |
(b) wedi hynny, am bob 15 munud ychwanegol neu ran o’r cyfnod hwnnw | £7.50. |
Rheoliad 3(5B)
(1) Math o gais | (2) Ffi |
---|---|
Cais am awdurdodiad DPP, ac eithrio adnewyddu awdurdodiad DPP presennol | £400.00 |
Cais i adnewyddu awdurdodiad DPP presennol | £120.00 |
Cais am ailasesiad at ddibenion awdurdodiad DPP | £120.00”. |
O.S. 2019/497 (Cy. 114); ceir diwygiad rhagolygol perthnasol yn O.S. 2019/735 (Cy. 138).
O.S. 2005/2517; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2013/755 (Cy. 90), O.S. 2014/2420, O.S. 2019/734.
OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1 fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2019/523 (OJ Rhif L 86, 28.3.2019, t. 41).
OJ Rhif L 317, 23.11.2016, t. 4, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1).
OJ Rhif L 317, 23.11.2016, t. 4, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: