Hwyluso cymorth a chydweithrediad
9.—(1) At ddibenion cynorthwyo awdurdod cymwys o Aelod-wladwriaeth arall fel a ddarperir yn Erthygl 104, neu alluogi Gweinidogion Cymru neu awdurdod dynodedig i wneud hynny, caiff arolygydd sy’n arfer pwerau o dan ddeddfwriaeth berthnasol i fynd i fangre neu i arolygu cofnodion—
(a)mynd â swyddogion awdurdodedig awdurdod cymwys gwlad arall gydag ef,
(b)dangos cofnodion i’r swyddogion awdurdodedig hynny sy’n mynd gydag ef, ac
(c)gwneud copïau o’r cofnodion ar eu cyfer, neu ei gwneud yn ofynnol i gopïau o’r cofnodion gael eu gwneud ar eu cyfer.
(2) At ddibenion hwyluso ymweliad gan dîm arolygu fel a ddarperir yn Erthygl 108, caiff arolygydd fynd â chynrychiolwyr o Gomisiwn yr UE gydag ef wrth arfer pwerau o dan ddeddfwriaeth berthnasol i fynd i fangre ac arolygu cofnodion.
(3) Caniateir ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddarparu i swyddog gorfodi unrhyw gymorth, unrhyw wybodaeth neu unrhyw gyfleusterau sy’n rhesymol ofynnol gan y swyddog at ddiben gweithredu neu orfodi’r Rheoliadau hyn neu Reoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE.