NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyfarfodydd awdurdodau lleol, cyhoeddi dogfennau penodol awdurdodau lleol a mynediad at y dogfennau hynny.

Mae Rhan 1 yn nodi materion rhagarweiniol ac yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, gan gynnwys diffinio “awdurdod lleol” at ddibenion y Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhyngweithiad y Rheoliadau hyn â rheolau sefydlog, trefniadau gweithrediaeth ac unrhyw reolau eraill sydd gan awdurdod lleol. Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae’n rhaid i awdurdod sydd â’i wefan ei hun gydymffurfio â gofynion yn y Rheoliadau hyn i gyhoeddi hysbysiadau neu ddogfennau yn electronig.

Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth i alluogi cyfarfodydd awdurdodau lleol a gynhelir cyn 1 Mai 2021 i gael eu cynnal drwy gael eu mynychu o bell.

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch gofynion sy’n ymwneud â chyfarfodydd awdurdodau lleol. Mae rheoliadau 6 i 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch pa bryd y caniateir cynnal cyfarfodydd blynyddol prif gynghorau, cynghorau cymuned ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn 2020. Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth sy’n sicrhau na chyfyngir ar awdurdod lleol wrth benderfynu pa bryd y caniateir i gyfarfodydd (ac eithrio’r cyfarfodydd blynyddol y mae rheoliadau 6 i 8 yn ymdrin â hwy) gael eu cynnal cyn 1 Mai 2021. Mae rheoliad 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch methiant i fynychu cyfarfodydd. Mae rheoliadau 11 i 13 yn gwneud darpariaeth ynghylch ethol cadeiryddion, is-gadeiryddion a dirprwy gadeiryddion (yn ôl y digwydd) yng nghyfarfodydd blynyddol prif gynghorau, cynghorau cymuned, awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe ar gyfer 2020. Mae rheoliad 14 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phenodiadau eraill a wneir yng nghyfarfodydd awdurdodau lleol a gynhelir cyn 1 Mai 2021. Mae rheoliad 15 yn galluogi rheolau sefydlog awdurdod cynllunio lleol i ddarparu ar gyfer dirprwyo aelodau o bwyllgorau ac is-bwyllgorau awdurdodau cynllunio lleol. Mae rheoliad 16 yn gwneud darpariaeth ynghylch y dull pleidleisio yng nghyfarfodydd cynghorau cymuned. Mae rheoliadau 17 a 18 yn gwneud darpariaeth ynghylch hysbysiadau cyfarfodydd prif gynghorau, cynghorau cymuned ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol a gynhelir cyn 1 Mai 2021, a gwysion i’r aelodau i fynychu’r cyfarfodydd hynny.

Mae Rhan 4 yn gwneud addasiadau i’r gofynion ynglŷn â mynediad y cyhoedd mewn perthynas â chyfarfodydd penodol awdurdod lleol, penderfyniadau gweithrediaeth prif gynghorau, a hysbysiadau a dogfennau sy’n ymwneud â’r cyfarfodydd neu’r penderfyniadau hynny. Mae rheoliad 20 yn addasu darpariaethau yn Neddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) 1960 (p. 67) ac mae rheoliad 21 yn addasu darpariaethau yn Rhan 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70). Mae’r darpariaethau hynny’n ymwneud â mynediad y cyhoedd i gyfarfodydd ac at hysbysiadau a dogfennau sy’n ymwneud â chyfarfodydd. Mae rheoliad 22 yn gwneud darpariaeth ynghylch paratoi cofnodion cyfarfod o dan Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae rheoliad 23 yn addasu darpariaethau yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2290) (Cy. 178) mewn perthynas â mynediad y cyhoedd i gyfarfodydd gweithrediaethau prif gynghorau ac at hysbysiadau a dogfennau sy’n ymwneud â’r cyfarfodydd a’r penderfyniadau gweithrediaeth hynny.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.