RHAN 1Cyffredinol
Enwi, rhychwant a chymhwyso, a chychwynI11
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020.
2
Mae’r Rheoliadau hyn—
a
yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
b
yn gymwys o ran Cymru.
3
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Ebrill 2020.
DehongliI22
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—
- a
prif gyngor;
- b
gweithrediaeth prif gyngor (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000);
- c
cyngor cymuned;
- d
cyd-fwrdd ar gyfer ardal yng Nghymru, sy’n dal i fodoli yn rhinwedd adran 263(1) o Ddeddf 1972;
- e
awdurdod iechyd porthladd ar gyfer ardal iechyd porthladd yng Nghymru, a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19845;
- f
awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru, a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 20046 neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno’n gymwys iddo;
- g
awdurdod Parc Cenedlaethol;
- h
cydbwyllgor o ddau neu ragor o’r cyrff a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (g);
- i
pwyllgor neu gydbwyllgor o unrhyw un neu ragor o’r cyrff a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (h);
- a
ystyr “awdurdod Parc Cenedlaethol” (“National Park authority”) yw awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer ardal yng Nghymru, a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 19957;
ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 19728;
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad i’r graddau y mae’n cynnwys darpariaeth a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru pe bai wedi ei chynnwys mewn Deddf Cynulliad;
ystyr “prif gyngor” (“principal council”) yw cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru.
Rhyngweithio â rheolau sefydlog etc.I33
1
Mae’r ddarpariaeth a wneir yn y Rheoliadau hyn yn gymwys ni waeth am unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir yn y rheolau sefydlog, y trefniadau gweithrediaeth neu unrhyw reolau eraill sydd gan awdurdod lleol.
2
I’r graddau y mae unrhyw ddarpariaeth mewn rheolau sefydlog, trefniadau gweithrediaeth neu reolau eraill awdurdod lleol yn anghydnaws ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, nid yw’n cael unrhyw effaith tra bo’r ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn cael effaith.
Cyhoeddi’n electronigI44
Os oes gan y corff y gosodir y gofyniad arno ei wefan ei hun, mae gofyniad a osodir yn rhinwedd y Rheoliadau hyn i gyhoeddi hysbysiad neu ddogfen yn electronig yn ofyniad i’w cyhoeddi ar y wefan honno.