RHAN 1Cyffredinol

Enwi, rhychwant a chymhwyso, a chychwynI11

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020.

2

Mae’r Rheoliadau hyn—

a

yn rhychwantu Cymru a Lloegr;

b

yn gymwys o ran Cymru.

3

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Ebrill 2020.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 1 mewn grym ar 22.4.2020, gweler rhl. 1(3)

DehongliI42

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—

    1. a

      prif gyngor;

    2. b

      gweithrediaeth prif gyngor (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000);

    3. c

      cyngor cymuned;

    4. d

      cyd-fwrdd ar gyfer ardal yng Nghymru, sy’n dal i fodoli yn rhinwedd adran 263(1) o Ddeddf 1972;

    5. e

      awdurdod iechyd porthladd ar gyfer ardal iechyd porthladd yng Nghymru, a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19845;

    6. f

      awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru, a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 20046 neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno’n gymwys iddo;

    7. g

      awdurdod Parc Cenedlaethol;

    8. h

      cydbwyllgor o ddau neu ragor o’r cyrff a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (g);

    9. i

      pwyllgor neu gydbwyllgor o unrhyw un neu ragor o’r cyrff a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (h);

  • ystyr “awdurdod Parc Cenedlaethol” (“National Park authority”) yw awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer ardal yng Nghymru, a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 19957;

  • ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 19728;

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad i’r graddau y mae’n cynnwys darpariaeth a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru pe bai wedi ei chynnwys mewn Deddf Cynulliad;

  • ystyr “prif gyngor” (“principal council”) yw cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 2 mewn grym ar 22.4.2020, gweler rhl. 1(3)

Rhyngweithio â rheolau sefydlog etc.I23

1

Mae’r ddarpariaeth a wneir yn y Rheoliadau hyn yn gymwys ni waeth am unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir yn y rheolau sefydlog, y trefniadau gweithrediaeth neu unrhyw reolau eraill sydd gan awdurdod lleol.

2

I’r graddau y mae unrhyw ddarpariaeth mewn rheolau sefydlog, trefniadau gweithrediaeth neu reolau eraill awdurdod lleol yn anghydnaws ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, nid yw’n cael unrhyw effaith tra bo’r ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn cael effaith.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 3 mewn grym ar 22.4.2020, gweler rhl. 1(3)

Cyhoeddi’n electronigI34

Os oes gan y corff y gosodir y gofyniad arno ei wefan ei hun, mae gofyniad a osodir yn rhinwedd y Rheoliadau hyn i gyhoeddi hysbysiad neu ddogfen yn electronig yn ofyniad i’w cyhoeddi ar y wefan honno.