xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
14.—(1) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cyfarfod perthnasol” (“relevant meeting”) yw cyfarfod awdurdod lleol sydd i’w gynnal cyn 1 Mai 2021;
ystyr “swydd berthnasol” (“relevant office”) yw swydd y penodir neu yr etholir person iddi mewn cyfarfod perthnasol, heblaw swyddi—
cadeirydd ac is-gadeirydd prif gyngor;
cadeirydd ac is-gadeirydd cyngor cymuned;
cadeirydd a dirprwy gadeirydd awdurdod Parc Cenedlaethol;
cadeirydd Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe.
(2) Mae unrhyw ofyniad a osodir gan unrhyw ddeddfiad neu offeryn arall i benodi neu ethol person i swydd berthnasol mewn cyfarfod perthnasol, heblaw gofyniad i lenwi lle gwag yn y swydd honno, i’w drin fel pŵer i benodi neu ethol person i’r swydd honno mewn unrhyw gyfarfod perthnasol.
(3) Mae cyfnod swydd person sy’n dal swydd berthnasol yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn parhau tan yn union cyn i olynydd y person hwnnw ddod i’w swydd, er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw ddeddfiad neu offeryn arall, heblaw darpariaeth sy’n ymwneud â gadael y swydd cyn diwedd cyfnod y swydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 14 mewn grym ar 22.4.2020, gweler rhl. 1(3)