5.—(1) Nid yw adran 4 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011(1) (mynychu cyfarfodydd prif gynghorau o bell) yn cael effaith mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir cyn 1 Mai 2021.
(2) Caniateir i gyfarfod awdurdod lleol a gynhelir cyn y dyddiad hwnnw gael ei gynnal drwy gyfrwng unrhyw offer neu gyfleuster arall sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i siarad â’i gilydd a chael eu clywed gan ei gilydd (pa un a yw’r offer neu’r cyfleuster hefyd yn galluogi’r personau hynny i weld ei gilydd ai peidio).
(3) O ran cyfeiriad mewn unrhyw ddeddfiad neu offeryn arall—
(a)at berson yn mynychu cyfarfod awdurdod lleol neu’n bresennol mewn cyfarfod awdurdod lleol, mae’n cynnwys, mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir drwy’r dulliau a ddisgrifir ym mharagraff (2), mynychu’r cyfarfod drwy ddefnyddio’r dulliau hynny;
(b)nid yw’r lle y cynhelir cyfarfod awdurdod lleol i gael ei ddarllen fel pe bai’n gyfyngedig i un lleoliad corfforol.
(4) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn cyfyngu ar bwerau awdurdod lleol i wneud rheolau sefydlog, trefniadau gweithrediaeth neu reolau eraill ynghylch cyfarfodydd a gynhelir drwy’r dulliau a ddisgrifir ym mharagraff (2).
(5) Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y rheoliad hwn.
2011 mccc 4. Diwygiwyd adran 4 gan adran 59 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4).