Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020

Pryd y caniateir cynnal cyfarfodydd blynyddol penodol

7.  Mae Atodlen 12 i Ddeddf 1972 i’w darllen fel pe bai “in 2020, the annual meeting is to be held on such day in 2020 as the proper officer of the council may determine,” wedi ei fewnosod, ym mharagraff 23(2)(1) (cyfarfodydd blynyddol cynghorau cymuned), ar ôl “take office,”.

(1)

Diwygiwyd paragraff 23(2) gan erthygl 4 o Orchymyn Deddf Etholiadau 2001 (Darpariaethau Atodol) 2001 (O.S. 2001/1630).