RHAN 3Gofynion ynglŷn â chyfarfodydd

Dyddiad ac amser cyfarfodydd eraillI19

1

Caniateir cynnal cyfarfod y mae’n ofynnol, yn rhinwedd deddfiad neu offeryn arall, i awdurdod lleol ei gynnal cyn 1 Mai 2021 ar unrhyw ddiwrnod ac ar unrhyw amser cyn 1 Mai 2021 y mae’r awdurdod lleol yn ei bennu (pa un a yw’n ddarostyngedig i unrhyw ofynion eraill ai peidio o ran pryd y mae rhaid ei gynnal).

2

Yn y rheoliad hwn, nid yw “cyfarfod” yn cynnwys cyfarfod blynyddol—

a

prif gyngor;

b

cyngor cymuned;

c

awdurdod Parc Cenedlaethol.

F13

Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag—

a

y gofyniad—

i

o dan adran 115 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 i ystyried mewn cyfarfod adroddiad o dan adran 114 o’r Ddeddf honno;

ii

o dan adran 115B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 i ystyried mewn cyfarfod adroddiad o dan adran 114A o’r Ddeddf honno;

iii

o dan adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i ystyried mewn cyfarfod adroddiad o dan yr adran honno gan bennaeth gwasanaeth taledig;

iv

o dan adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i ystyried mewn cyfarfod adroddiad o dan yr adran honno gan swyddog monitro neu ddirprwy i swyddog monitro;

v

o dan adran 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i ystyried mewn cyfarfod adroddiad o dan yr adran honno gan swyddog monitro neu ddirprwy i swyddog monitro;

vi

o dan adran 25 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 i ystyried mewn cyfarfod adroddiad o dan adran 22 o’r Ddeddf honno, neu argymhelliad o fewn adran 25(2) o’r Ddeddf honno;

b

unrhyw ofyniad i gynnal cyfarfod cyn gynted ag y bo’n ymarferol (sut bynnag y mynegir y gofyniad hwnnw).