Cyfarwyddydau terfynuI12
Yn rheoliad 3 o’r prif Reoliadau, yn lle paragraff (4) rhodder—
4
Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny gan roi sylw i’r angen i atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint yng Nghymru â’r coronafeirws, gyhoeddi cyfarwyddyd sy’n terfynu gofyniad neu gyfyngiad mewn perthynas ag —
a
busnes neu wasanaeth penodedig neu ddisgrifiad penodedig o fusnes neu wasanaeth;
b
disgrifiad penodedig o bersonau;
c
rhan benodedig o Gymru.
4A
Nid yw terfynu cyfyngiad neu ofyniad drwy gyfarwyddyd yn effeithio—
a
ar unrhyw gosbedigaeth yr eir iddi mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd a gyflawnir o dan y Rheoliadau hyn cyn i’r cyfyngiad neu’r gofyniad gael ei derfynu,
b
ar unrhyw hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir o dan reoliad 13 mewn perthynas ag ymddygiad sy’n digwydd cyn i’r cyfyngiad neu’r gofyniad gael ei derfynu, neu
c
ar unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi mewn cysylltiad—
i
ag unrhyw drosedd neu ymddygiad o’r fath, neu
ii
ag unrhyw drosedd honedig o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni cyn i’r cyfyngiad neu’r gofyniad gael ei derfynu,
a chaniateir cychwyn, parhau neu orfodi unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi o’r fath, a chaniateir gosod unrhyw gosbedigaeth neu gosb o’r fath, fel pe na bai’r terfyniad wedi digwydd.