Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020

Cyfarwyddydau terfynuLL+C

2.  Yn rheoliad 3 o’r prif Reoliadau, yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny gan roi sylw i’r angen i atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint yng Nghymru â’r coronafeirws, gyhoeddi cyfarwyddyd sy’n terfynu gofyniad neu gyfyngiad mewn perthynas ag —

(a)busnes neu wasanaeth penodedig neu ddisgrifiad penodedig o fusnes neu wasanaeth;

(b)disgrifiad penodedig o bersonau;

(c)rhan benodedig o Gymru.

(4A) Nid yw terfynu cyfyngiad neu ofyniad drwy gyfarwyddyd yn effeithio—

(a)ar unrhyw gosbedigaeth yr eir iddi mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd a gyflawnir o dan y Rheoliadau hyn cyn i’r cyfyngiad neu’r gofyniad gael ei derfynu,

(b)ar unrhyw hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir o dan reoliad 13 mewn perthynas ag ymddygiad sy’n digwydd cyn i’r cyfyngiad neu’r gofyniad gael ei derfynu, neu

(c)ar unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi mewn cysylltiad—

(i)ag unrhyw drosedd neu ymddygiad o’r fath, neu

(ii)ag unrhyw drosedd honedig o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni cyn i’r cyfyngiad neu’r gofyniad gael ei derfynu,

a chaniateir cychwyn, parhau neu orfodi unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi o’r fath, a chaniateir gosod unrhyw gosbedigaeth neu gosb o’r fath, fel pe na bai’r terfyniad wedi digwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 2 mewn grym ar 25.4.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(1)