Gofyniad i gynnal pellter corfforol mewn perthynas â mangreoedd penodolI13

1

Mae rheoliadau 4, 5, 6 a 6A o’r prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Ar ôl rheoliad 4(5) mewnosoder—

5A

Mae paragraff (5B) yn gymwys—

a

i fangre a ddefnyddir i gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a grybwyllir yn is-baragraff (1)(a), (b) neu (c) o baragraff 2 o Atodlen 1, neu

b

pan fo mangre a ddefnyddir i gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir yn Rhan 2 neu 3 o Atodlen 1 wedi ei defnyddio at ddiben a grybwyllir ym mharagraff (5).

5B

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes neu ddarparu’r gwasanaeth, yn ystod cyfnod yr argyfwng, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

a

y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),

b

nad yw personau ond yn cael mynediad i’r fangre mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac

c

y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i’r fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).

3

Ar ôl rheoliad 5(3A) mewnosoder—

3B

Mae paragraff (3C) yn gymwys pan fo mangre a ddefnyddir ar gyfer busnes a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1 wedi ei defnyddio—

a

i ddarparu llety yn unol â pharagraff (3), neu

b

i gynnal y busnes yn unol â pharagraff (3A).

3C

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes, yn ystod cyfnod yr argyfwng, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

a

y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),

b

nad yw personau ond yn cael mynediad i’r fangre mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac

c

y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i’r fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).

4

Yn rheoliad 6, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

2A

Pan na fo mangre wedi ei chau oherwydd ei bod yn fangre sydd ei hangen er mwyn cynnal busnes fel y’i caniateir gan baragraff (2)(a), rhaid i’r person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes, yn ystod cyfnod yr argyfwng, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

a

y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),

b

nad yw personau ond yn cael mynediad i’r fangre mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac

c

y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i’r fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).

5

Yn rheoliad 6A, yn lle paragraff (2) rhodder—

2

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fangre—

a

a ddefnyddir i gynnal busnes, neu ddarparu gwasanaeth, a restrir yn Atodlen 1, neu

b

y mae rheoliad 6(2A) yn gymwys iddi.