Rhanddirymu’r gofynion o ran tyfu amrywiaeth o gnydau2
At ddibenion Erthygl 43(1) (taliadau uniongyrchol: gofyniad i gydymffurfio ag arferion amaethyddol sy’n llesol i’r hinsawdd a’r amgylchedd) o Reoliad (EU) Rhif 1307/2013—
a
nid yw’r darpariaethau a ganlyn yn Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 yn cael effaith mewn cysylltiad â hectarau cymwys yng Nghymru—
i
Erthygl 43(2)(a) (tyfu amrywiaeth o gnydau fel un o’r arferion amaethyddol sy’n llesol i’r hinsawdd a’r amgylchedd);
ii
Erthygl 44 (gofynion o ran tyfu amrywiaeth o gnydau);
iii
Atodiad IX, Adran I, paragraff (1) (rhestr o arferion sy’n cyfateb i dyfu amrywiaeth o gnydau);
b
mae is-baragraff cyntaf Erthygl 43(9) o Reoliad (EU) Rhif 1307/2013 yn cael effaith mewn perthynas â hectarau cymwys yng Nghymru fel pe bai’r cyfeiriad at 44 wedi ei hepgor.