Diwygio Rheoliadau 20056.

Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

“mae i “yr awdurdod derbyn” yr un ystyr ag a roddir i “the admisssion authority” yn adran 88(1)(a) a (b);”;

“ystyr “y Cod Apelau Derbyn i Ysgolion” (“the School Admission Appeals Code”) yw’r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion, sef y cod a ddyroddir o dan adran 84 sy’n ymwneud ag apelau derbyn;”;

“ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-Cov-2);”;

““eithriad y coronafeirws” (“coronavirus exception”) yw amod sy’n gymwys, am reswm sy’n gysylltiedig â mynychder neu drosglwyddiad y coronafeirws—

(a)

pan na fo’n rhesymol ymarferol i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir gydymffurfio â gofynion paragraff 1(1) a (2) neu 2(1) a (2) o Atodlen 1 (yn ôl y digwydd), (“rheswm y cyfansoddiad”), neu

(b)

pan na fo’n rhesymol ymarferol i banel apêl gydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff 1(6) o Atodlen 2, neu baragraffau 4.13, 4.14 neu 7.5 o’r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion i ganiatáu i apelyddion neu gynrychiolwyr awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu ymddangos yn bersonol (“rheswm yr apêl yn bersonol);”;

“ystyr “mynediad o bell” (“remote access”) yw mynediad at wrandawiad apêl i alluogi’r rheini nad ydynt i gyd yn bresennol gyda’i gilydd yn yr un man i fynd i’r gwrandawiad neu gymryd rhan ynddo ar yr un pryd drwy ddulliau electronig, gan gynnwys drwy gyswllt awdio byw a chyswllt fideo byw;”;

“ystyr “penderfyniad derbyn” (“admission decision”) yw penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 94(1) i (2A) sy’n gwrthod derbyn plentyn i ysgol neu sy’n gwrthod mynediad iddo at chweched dosbarth neu o ran yr ysgol y mae addysg i’w darparu ar gyfer plentyn ynddi.”