Diwygio Rheoliadau 20059
Ar ôl rheoliad 8 (indemnio) mewnosoder—
Terfynau amser9
1
Mae paragraffau 3 a 4 o Atodlen 3 yn effeithiol at ddibenion penderfynu’r amserlen mewn cysylltiad ag apêl yn unol â threfniadau a wneir gan awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir o dan adran 94.
2
Mae paragraff 5 o Atodlen 3 yn effeithiol at ddibenion penderfynu’r amserlen mewn perthynas ag apêl yn unol â threfniadau a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 95.