2020 Rhif 486 (Cy. 111)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 10(4) a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 20161.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Mai 2020.

Diwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017

2

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 20172 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.

3

Hepgorer rheoliad 9A (amser ar gyfer cyflwyno’r datganiadau blynyddol cyntaf).

4

Yn lle rheoliad 10 (terfyn amser ar gyfer cyflwyno datganiadau blynyddol) rhodder—

Terfyn amser ar gyfer cyflwyno datganiadau blynyddol"10

1

Rhaid i ddatganiad blynyddol sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r blynyddoedd ariannol 2018-19, 2019-20 neu 2020-21 gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 26 Mai 2021.

2

Rhaid i ddatganiad blynyddol sy’n ymwneud â blwyddyn ariannol ddilynol gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn 56 o ddiwrnodau i ddiwedd y flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi.

Julie MorganY Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) (“y Ddeddf”). Maent yn diwygio gofyniad penodol a osodir ar ddarparwyr gofal cymdeithasol cofrestredig ac maent wedi eu gwneud mewn ymateb i ledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn gosod gofynion ar ddarparwyr y gwasanaethau gofal cymdeithasol a reoleiddir gan y Ddeddf. Maent yn cynnwys gofyniad yn adran 10 i gyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1097) (Cy. 277)) (“y Rheoliadau Datganiadau Blynyddol”) yn darparu manylion pellach am y datganiadau blynyddol. Maent yn cynnwys darpariaeth a wneir o dan adran 10(4) ynghylch y dyddiadau erbyn pryd y mae rhaid cyflwyno’r datganiadau.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 10(4) o’r Ddeddf ac maent yn diwygio rheoliadau 9A a 10 o’r Rheoliadau Datganiadau Blynyddol. Mae’r rheoliadau hynny yn ymwneud â’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid cyflwyno datganiadau blynyddol. Effaith y diwygiadau yw bod rhaid i ddarparwyr pob math o wasanaethau rheoleiddiedig gyflwyno datganiadau blynyddol sy’n ymwneud â’r blynyddoedd ariannol 2018-19, 2019-20 a 2020-21 heb fod yn hwyrach na 26 Mai 2021. Yn flaenorol, roedd yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel, gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd neu wasanaeth cymorth cartref gyflwyno eu set gyntaf o ddatganiadau blynyddol heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2020.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.