Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 486 (Cy. 111)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020

Gwnaed

4 Mai 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Mai 2020

Yn dod i rym

26 Mai 2020

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Mai 2020.

Diwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017

2.  Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017(2) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.

3.  Hepgorer rheoliad 9A (amser ar gyfer cyflwyno’r datganiadau blynyddol cyntaf).

4.  Yn lle rheoliad 10 (terfyn amser ar gyfer cyflwyno datganiadau blynyddol) rhodder—

Terfyn amser ar gyfer cyflwyno datganiadau blynyddol

"10.(1) Rhaid i ddatganiad blynyddol sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r blynyddoedd ariannol 2018-19, 2019-20 neu 2020-21 gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 26 Mai 2021.

(2) Rhaid i ddatganiad blynyddol sy’n ymwneud â blwyddyn ariannol ddilynol gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn 56 o ddiwrnodau i ddiwedd y flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

4 Mai 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) (“y Ddeddf”). Maent yn diwygio gofyniad penodol a osodir ar ddarparwyr gofal cymdeithasol cofrestredig ac maent wedi eu gwneud mewn ymateb i ledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn gosod gofynion ar ddarparwyr y gwasanaethau gofal cymdeithasol a reoleiddir gan y Ddeddf. Maent yn cynnwys gofyniad yn adran 10 i gyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1097) (Cy. 277)) (“y Rheoliadau Datganiadau Blynyddol”) yn darparu manylion pellach am y datganiadau blynyddol. Maent yn cynnwys darpariaeth a wneir o dan adran 10(4) ynghylch y dyddiadau erbyn pryd y mae rhaid cyflwyno’r datganiadau.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 10(4) o’r Ddeddf ac maent yn diwygio rheoliadau 9A a 10 o’r Rheoliadau Datganiadau Blynyddol. Mae’r rheoliadau hynny yn ymwneud â’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid cyflwyno datganiadau blynyddol. Effaith y diwygiadau yw bod rhaid i ddarparwyr pob math o wasanaethau rheoleiddiedig gyflwyno datganiadau blynyddol sy’n ymwneud â’r blynyddoedd ariannol 2018-19, 2019-20 a 2020-21 heb fod yn hwyrach na 26 Mai 2021. Yn flaenorol, roedd yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel, gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd neu wasanaeth cymorth cartref gyflwyno eu set gyntaf o ddatganiadau blynyddol heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2020.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2016 dccc 2; gweler y diffiniad o “a ragnodir” a “rhagnodedig” yn adran 189.