2020 Rhif 497 (Cy. 118)
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd a cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad syndrom anadlol acíwt difrifol coronafeirws 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud y offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rymI11
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 a deuant i rym am 4.00 p.m. ar 11 Mai 2020.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020I22
1
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 20202 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 3—
a
ym mharagraff (2), ar ôl “y Rheoliadau hyn” mewnosoder “, a pha un a yw’r cyfyngiadau a’r gofynion hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt,”;
b
hepgorer paragraffau (3), (4), (4A) a (5).
3
Yn rheoliad 4, ym mharagraff (5)(c), yn lle “, oriel neu lyfrgell” rhodder “neu oriel”.
4
Yn rheoliad 8, ym mharagraff (2)—
a
ar ôl is-baragraff (aa) mewnosoder—
ab
i gasglu nwyddau sydd wedi eu prynu oddi wrth berson sy’n darparu gwasanaeth mewn ymateb i archebion neu ymholiadau yn rhinwedd yr eithriad i’r gofyniad yn rheoliad 6(2)(a) i beidio â chynnal busnes;
b
yn is-baragraff (b), yn lle “ddim mwy nag unwaith y dydd (neu’n amlach os oes angen hyn oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd penodol)” rhodder “o fewn ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’r person yn byw”;
c
ar ôl is-baragraff (i)—
ia
i ddefnyddio gwasanaethau ailgylchu neu waredu gwastraff;
ib
i ymweld â llyfrgell;
5
Yn Atodlen 1—
a
ym mharagraff 10, hepgorer “, llyfrgelloedd”;
b
ar ôl paragraff 33 mewnosoder—
33A
Canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion.
c
ar ôl paragraff 47 mewnosoder—
48
Llyfrgelloedd.
Diwygiad canlyniadol i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020I33
Hepgorer rheoliad 2 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 20203.
Arbediad ar gyfer troseddau a chosbau mewn perthynas â gweithredoedd blaenorolI44
Mae rheoliadau 12 a 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw drosedd a gyflawnir, neu y credir yn rhesymol ei bod wedi ei chyflawni, cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym fel pe na bai’r diwygiadau a nodir yn rheoliad 2 wedi eu gwneud.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)