Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ceisiadau Cynllunio (Addasiadau a Datgymhwyso Dros Dro) (Cymru) (Coronafeirws) 2020.

2

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 19 Mai 2020.

Ymgynghori cyn ymgeisio:rhoi gwybodaeth ar gael2

1

Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 20125 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Ar ôl erthygl 2F mewnosoder—

Coronafeirws: addasu’r Rhan hon dros dro2G

1

Mae’r Rhan hon yn gymwys gyda’r addasiadau a nodir yn yr erthygl hon pan fydd—

a

pob un o’r hysbysiadau y mae erthyglau 2C(1)(a) a 2D(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd eu rhoi mewn perthynas â chais arfaethedig yn cael eu rhoi ar ôl dechrau cyfnod yr argyfwng, a

b

o leiaf un o’r hysbysiadau hynny yn cael ei roi cyn diwedd cyfnod yr argyfwng.

2

Yn yr erthygl hon, ystyr “cyfnod yr argyfwng” yw’r cyfnod—

a

sy’n dechrau gyda 19 Mai 2020, a

b

sy’n dod i ben gyda 18 Medi 2020.

3

Mae erthygl 2C(1) yn cael effaith fel pe bai—

a

yn is-baragraff (b), “rhoi’r wybodaeth ganlynol ar gael ar wefan” wedi ei roi yn lle “rhoi’r wybodaeth ganlynol ar gael i’w harchwilio mewn lleoliad yng nghyffiniau’r datblygiad arfaethedig”;

b

y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (b)—

ac

c

anfon copïau caled o’r dogfennau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (b) at unrhyw berson sy’n gofyn amdanynt, pan ofynnir amdanynt o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-baragraff hwnnw.

4

Mae erthygl 2C yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (3)—

3A

Os gofynnwyd am gopïau caled o unrhyw ddogfennau fel y crybwyllir ym mharagraff (1)(c), ni chaniateir cyflwyno cais cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau gyda’r diwrnod yr anfonir y ddogfen olaf yn unol â’r paragraff hwnnw.

5

Mae erthygl 2C(5) yn cael effaith mewn perthynas â phob hysbysiad a roddir gan y ceisydd o dan erthygl 2C(1)(a) fel pe bai’r cyfeiriad at Atodlen 1B yn gyfeiriad at Atodlen 1D.

6

Mae erthygl 2D(5)(a) yn cael effaith mewn perthynas â phob hysbysiad a roddir gan y ceisydd o dan erthygl 2D(2) fel pe bai’r cyfeiriad at Atodlen 1B yn gyfeiriad at Atodlen 1D.

7

Mae erthygl 2F(2) yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (c)—

ca

datganiad bod yr wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (b) o erthygl 2C(1) wedi ei rhoi ar gael yn unol â’r is-baragraff hwnnw;

cb

datganiad yn nodi pa un a ofynnwyd am gopïau caled o unrhyw ddogfennau fel y crybwyllir yn is-baragraff (c) o erthygl 2C(1) ac, os felly, datganiad bod y copïau caled wedi eu hanfon yn unol â’r is-baragraff hwnnw;

3

Ar ôl Atodlen 1C mewnosoder Atodlen 1D a nodir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

Cyfnod i gynghorau cymuned wneud sylwadau ar geisiadau3

Yn erthygl 16 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

4

Pan fo cyngor cymuned yn cael ei hysbysu am gais yn ystod cyfnod yr argyfwng, mae paragraffau (1) a (2)(c) yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriadau at 14 o ddiwrnodau yn gyfeiriadau at 21 o ddiwrnodau.

5

Ym mharagraff (4), mae i “cyfnod yr argyfwng” yr ystyr a roddir gan erthygl 2G(2).

Datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: gwneud ceisiadau4

Yn erthygl 12 o Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 20166, ar ôl paragraff (6) mewnosoder—

6A

Nid yw paragraffau (5) a (6) yn gymwys i gais a wneir yn ystod y cyfnod—

a

sy’n dechrau gyda 19 Mai 2020, a

b

sy’n dod i ben gyda 18 Medi 2020.

Julie JamesY Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru