Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ceisiadau Cynllunio (Addasiadau a Datgymhwyso Dros Dro) (Cymru) (Coronafeirws) 2020.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 19 Mai 2020.

Ymgynghori cyn ymgeisio: rhoi gwybodaeth ar gael

2.—(1Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl erthygl 2F mewnosoder—

Coronafeirws: addasu’r Rhan hon dros dro

2G.(1) Mae’r Rhan hon yn gymwys gyda’r addasiadau a nodir yn yr erthygl hon pan fydd—

(a)pob un o’r hysbysiadau y mae erthyglau 2C(1)(a) a 2D(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd eu rhoi mewn perthynas â chais arfaethedig yn cael eu rhoi ar ôl dechrau cyfnod yr argyfwng, a

(b)o leiaf un o’r hysbysiadau hynny yn cael ei roi cyn diwedd cyfnod yr argyfwng.

(2) Yn yr erthygl hon, ystyr “cyfnod yr argyfwng” yw’r cyfnod—

(a)sy’n dechrau gyda 19 Mai 2020, a

(b)sy’n dod i ben gyda 18 Medi 2020.

(3) Mae erthygl 2C(1) yn cael effaith fel pe bai—

(a)yn is-baragraff (b), “rhoi’r wybodaeth ganlynol ar gael ar wefan” wedi ei roi yn lle “rhoi’r wybodaeth ganlynol ar gael i’w harchwilio mewn lleoliad yng nghyffiniau’r datblygiad arfaethedig”;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (b)—

ac

(c)anfon copïau caled o’r dogfennau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (b) at unrhyw berson sy’n gofyn amdanynt, pan ofynnir amdanynt o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-baragraff hwnnw.

(4) Mae erthygl 2C yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (3)—

(3A) Os gofynnwyd am gopïau caled o unrhyw ddogfennau fel y crybwyllir ym mharagraff (1)(c), ni chaniateir cyflwyno cais cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau gyda’r diwrnod yr anfonir y ddogfen olaf yn unol â’r paragraff hwnnw.

(5) Mae erthygl 2C(5) yn cael effaith mewn perthynas â phob hysbysiad a roddir gan y ceisydd o dan erthygl 2C(1)(a) fel pe bai’r cyfeiriad at Atodlen 1B yn gyfeiriad at Atodlen 1D.

(6) Mae erthygl 2D(5)(a) yn cael effaith mewn perthynas â phob hysbysiad a roddir gan y ceisydd o dan erthygl 2D(2) fel pe bai’r cyfeiriad at Atodlen 1B yn gyfeiriad at Atodlen 1D.

(7) Mae erthygl 2F(2) yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (c)—

(ca)datganiad bod yr wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (b) o erthygl 2C(1) wedi ei rhoi ar gael yn unol â’r is-baragraff hwnnw;

(cb)datganiad yn nodi pa un a ofynnwyd am gopïau caled o unrhyw ddogfennau fel y crybwyllir yn is-baragraff (c) o erthygl 2C(1) ac, os felly, datganiad bod y copïau caled wedi eu hanfon yn unol â’r is-baragraff hwnnw;.

(3Ar ôl Atodlen 1C mewnosoder Atodlen 1D a nodir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

Cyfnod i gynghorau cymuned wneud sylwadau ar geisiadau

3.  Yn erthygl 16 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Pan fo cyngor cymuned yn cael ei hysbysu am gais yn ystod cyfnod yr argyfwng, mae paragraffau (1) a (2)(c) yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriadau at 14 o ddiwrnodau yn gyfeiriadau at 21 o ddiwrnodau.

(5) Ym mharagraff (4), mae i “cyfnod yr argyfwng” yr ystyr a roddir gan erthygl 2G(2).

Datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: gwneud ceisiadau

4.  Yn erthygl 12 o Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016(2), ar ôl paragraff (6) mewnosoder—

(6A) Nid yw paragraffau (5) a (6) yn gymwys i gais a wneir yn ystod y cyfnod—

(a)sy’n dechrau gyda 19 Mai 2020, a

(b)sy’n dod i ben gyda 18 Medi 2020.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

15 Mai 2020