- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018 (“Gorchymyn 2018”). Mae Gorchymyn 2018 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r gofyniad i gael cymeradwyaeth ar gyfer systemau draenio cynaliadwy, ac archiadau i’w mabwysiadu, o dan Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (“Deddf 2010”).
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn mewnosod darpariaeth ddehongli yn erthygl 2 o Orchymyn 2018 (dehongli) sy’n ei gwneud yn glir nad yw datblygu a ganiateir, sef datblygiadau y rhoddir caniatâd cynllunio iddynt yn rhinwedd gorchmynion datblygu a gorchmynion datblygu lleol yn unol ag adran 58(1)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, i’w ystyried fel gwaith sydd wedi cael caniatâd cynllunio at ddibenion yr eithriadau yn erthyglau 3 i 6 o Orchymyn 2018.
Effaith hyn yw y bydd yn ofynnol i waith adeiladu sydd â goblygiadau o ran draenio, sydd hefyd yn ddatblygu a ganiateir ac sydd ar ddarn o dir sy’n mesur 100 metr sgwâr neu fwy, gael cymeradwyaeth gan y corff cymeradwyo, yn unol â darpariaethau Gorchymyn 2018.
Mae erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio erthygl 4 o Orchymyn 2018 (eithriadau i’r gofyniad i gael cymeradwyaeth: caniatâd cynllunio heb fod yn ofynnol). Mae’n mewnosod paragraff (3) newydd sy’n darparu nad yw’n ofynnol i ddatblygiadau brys a ganiateir o dan Ran 3A, Rhan 12A a Rhan 37 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995, gael cymeradwyaeth o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3 i Ddeddf 2010.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: