Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r trefniadau manwl sy’n angenrheidiol er mwyn cynnal y cyfrifiad yng Nghymru y cyfarwyddwyd ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 gan Orchymyn y Cyfrifiad (Cymru a Lloegr) 2020 (O.S. 2020/532) (“Gorchymyn y Cyfrifiad”). Maent hefyd yn dirymu Rheoliadau’r Cyfrifiad (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1361 (Cy. 116)).
2020 Rhif 555 (Cy. 128)
Y Cyfrifiad, Cymru
Rheoliadau’r Cyfrifiad (Cymru) 2020
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 3(1) o Ddeddf y Cyfrifiad 19201, ac ar ôl ymgynghori â’r Bwrdd Ystadegau yn unol ag adran 3(1A)2 o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: