(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 (y “prif Reoliadau”).
Mae’r diwygiadau hyn yn cynnwys—
a
darpariaethau sy’n galluogi priodas neu bartneriaeth sifil pan fo gan barti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil salwch angheuol;
b
llacio’r gofyniad i aros gartref oni bai bod gennych esgus rhesymol sy’n galluogi pobl i fod yn yr awyr agored at unrhyw ddiben o fewn eu hardal leol;
c
llacio’r cyfyngiad ar ymgynnull sy’n caniatáu i bersonau o ddim mwy na dwy aelwyd ymgynnull yn yr awyr agored.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.