xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 570 (Cy. 131)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020

Gwnaed

4 Mehefin 2020

Yn dod i rym

5 Mehefin 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 2(3), 27(1) a 187(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”)(1).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol, fel sy’n ofynnol gan adrannau 2(4) a 27(4)(a) o’r Ddeddf, ac wedi cyhoeddi datganiad ynghylch yr ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan adran 27(4)(b) o’r Ddeddf. Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod copi o’r datganiad gerbron Senedd Cymru fel sy’n ofynnol gan adran 27(5) o’r Ddeddf.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru o dan adran 187(2)(b) ac (f) o’r Ddeddf ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Mehefin 2020.

Diwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

2.  Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017(3)wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 7.

Dehongli

3.  Yn rheoliad 1(3) (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “y Comisiwn Ansawdd Gofal” (“Care Quality Commission”) yw’r corff a sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008(4);;

ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);.

Eithriad rhag cwmpas gwasanaethau cartrefi gofal

4.  Yn rheoliad 2(1) (gwasanaethau cartrefi gofal)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (j), yn lle’r atalnod llawn rhodder “;”;

(b)ar ôl is-baragraff (j) mewnosoder—

(k)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, pan fo’r llety a’r nyrsio neu’r gofal wedi eu darparu i oedolion ac y mae eu hangen o ganlyniad i ledaeniad y coronafeirws,

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys—

(i)oni bai bod y llety a’r nyrsio neu’r gofal—

(aa)wedi eu darparu gan awdurdod lleol,

(bb)wedi eu darparu gan Fwrdd Iechyd Lleol, neu

(cc)wedi eu comisiynu gan awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol ac wedi eu darparu naill ai gan ddarparwr gwasanaeth sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal ac sy’n darparu’r gwasanaeth hwnnw yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer oedolion, neu gan berson sydd wedi ei gofrestru â’r Comisiwn Ansawdd Gofal o dan Bennod 2 o Ran 1 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 mewn cysylltiad â chartref gofal yn Lloegr o fewn ystyr “care home” yn Rhan 1 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(5), a

(ii)oni bai bod y person sy’n darparu’r llety a’r nyrsio neu’r gofal wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn gyntaf gan ddefnyddio ffurflen a ddarperir gan Weinidogion Cymru.

Eithriad rhag cwmpas gwasanaethau cymorth cartref

5.  Yn rheoliad 3(1) (gwasanaethau cymorth cartref)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (i), yn lle’r atalnod llawn rhodder “;”;

(b)ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—

(j)y ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer oedolion pan fo angen y gofal a’r cymorth o ganlyniad i ledaeniad y coronafeirws,

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys—

(i)oni bai bod y gofal a’r cymorth—

(aa)wedi eu darparu gan awdurdod lleol,

(bb)wedi eu darparu gan Fwrdd Iechyd Lleol, neu

(cc)wedi eu comisiynu gan awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol ac wedi eu darparu naill ai gan ddarparwr gwasanaeth sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cymorth cartref, neu gan berson sydd wedi ei gofrestru â’r Comisiwn Ansawdd Gofal o dan Bennod 2 o Ran 1 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 mewn cysylltiad ag asiantaeth gofal cartref o fewn ystyr “domiciliary care agency” yn Rhan 1 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, a

(ii)oni bai bod y person sy’n darparu’r gofal a’r cymorth wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn gyntaf gan ddefnyddio ffurflen a ddarperir gan Weinidogion Cymru.

Addasrwydd staff

6.  Yn rheoliad 35 (addasrwydd staff)—

(a)ym mharagraff (2)(d), o flaen y geiriau agoriadol, mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (9A) o’r rheoliad hwn,”;

(b)ar ôl paragraff (9) mewnosoder—

(9A) Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth cartref gofal yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer oedolion neu wasanaeth cymorth cartref i oedolion, mae’r gofyniad ym mharagraff (2)(d) i’w drin fel pe bai wedi ei fodloni er bod y person a grybwyllir yn y paragraff hwnnw yn methu â darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r materion a bennir ym mharagraffau 4, 6, 8 a 9 o Ran 1 o Atodlen 1—

(a)os na all y person yn rhesymol ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol mewn cysylltiad â’r materion hynny o ganlyniad i ledaeniad y coronafeirws,

(b)os yw’r person yn darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth mewn cysylltiad â’r materion hynny sydd mor llawn a boddhaol ag y bo’n rhesymol ymarferol, ac

(c)os yw’r wybodaeth neu’r ddogfennaeth a ddarperir ar gael yn y gwasanaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau edrych arni.

Ystafelloedd a rennir

7.  Yn rheoliad 45 (ystafelloedd meddiannaeth sengl ac ystafelloedd a rennir – oedolion)—

(a)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Bydd yr amod ym mharagraff (2)(d) yn parhau i gael ei fodloni er bod nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya mewn ystafelloedd a rennir ar 5 Mehefin 2020 neu wedi hynny yn fwy na 15% o gyfanswm nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya gan y gwasanaeth pan na fo’r nifer yn fwy na’r terfyn ond oherwydd bod llety y mae ei angen o ganlyniad i ledaeniad y coronafeirws yn cael ei ddarparu mewn ystafelloedd a oedd heb eu meddiannu yn union cyn 5 Mehefin 2020.;

(b)ym mharagraff (3)(c), yn lle “yn rhannu ystafell ag oedolyn arall ar yr adeg berthnasol.” rhodder—

(i)yn rhannu ystafell ag oedolyn arall ar yr adeg berthnasol, neu

(ii)wedi eu darparu â’r llety ar 5 Mehefin 2020 neu wedi hynny mewn ystafelloedd a oedd heb eu meddiannu yn union cyn 5 Mehefin 2020 ac mae angen y llety o ganlyniad i ledaeniad y coronafeirws.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

4 Mehefin 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) (“y Ddeddf”). Maent yn diwygio gofynion penodol a osodir ar ddarparwyr gofal cymdeithasol cofrestredig o dan y Ddeddf, ac maent wedi eu gwneud mewn ymateb i ledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn nodi’r gwasanaethau gofal cymdeithasol y mae’r Ddeddf yn gymwys iddynt, ac yn eu diffinio fel “gwasanaethau rheoleiddiedig”. Mae adran 2(3) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i ddarparu mewn rheoliadau nad yw gwasanaethau penodol yn “gwasanaethau rheoleiddiedig”.

Mae adran 27 o’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i osod, mewn rheoliadau, ofynion ar ddarparwyr gwasanaethau mewn perthynas ࣙâ’r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Mae Gweinidogion Cymru wedi arfer y pŵer hwn i wneud Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1264 (Cy. 295)) (“y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig”).

Mae rheoliadau 2 i 7 yn diwygio’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig. Mae rheoliad 4 wedi ei wneud o dan adran 2(3) o’r Ddeddf ac yn diwygio rheoliad 2 (gwasanaethau cartrefi gofal) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig. Effaith y diwygiad yw nad yw’r ddarpariaeth o lety ynghyd â nyrsio neu ofal, pan fo’r llety a’r nyrsio neu’r gofal wedi eu darparu i oedolion ac y mae eu hangen o ganlyniad i ledaeniad y coronafeirws, yn “gwasanaeth cartref gofal” ac felly nad yw’n “gwasanaeth rheoleiddiedig” o dan y Ddeddf. Nid yw’r eithriad hwn ond yn gymwys pan fo’r gwasanaeth wedi ei ddarparu gan awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol, neu wedi ei gomisiynu gan awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol ac wedi ei ddarparu naill ai gan ddarparwr gwasanaeth sydd eisoes wedi ei gofrestru o dan y Ddeddf ac sy’n darparu gwasanaeth cartref gofal yn gyfan gwbl neu’n bennaf i oedolion, neu gan ddarparwyr cartrefi gofal yn Lloegr sydd eisoes wedi eu cofrestru â’r Comisiwn Ansawdd Gofal. Ym mhob achos, rhaid i Weinidogion Cymru gael eu hysbysu ymlaen llaw am y trefniadau.

Mae rheoliad 5 hefyd wedi ei wneud o dan adran 2(3) o’r Ddeddf. Mae’n gwneud diwygiad tebyg i reoliad 4, ond mewn perthynas â darparu gofal a chymorth ar gyfer oedolion.

Mae rheoliad 6 wedi ei wneud o dan adran 27(1) o’r Ddeddf ac yn diwygio rheoliad 35 o’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (addasrwydd staff). Mae rheoliad 35(2)(d) o’r Rheoliadau hynny yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gweithio ar gyfer darparwr gwasanaeth rheoleiddiedig roi gwybodaeth lawn a boddhaol mewn cysylltiad â materion penodol i’r darparwr. Effaith y diwygiad yw bod y gofyniad yn rheoliad 35(2)(d), o dan rai amgylchiadau, yn cael ei drin fel pe bai wedi ei fodloni hyd yn oed os nad yw person sy’n gweithio ar gyfer darparwr gwasanaeth cartref gofal yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer oedolion neu wasanaeth cymorth cartref i oedolion yn darparu gwybodaeth lawn a boddhaol am rai o’r materion hynny. Os na all y person yn rhesymol ddarparu gwybodaeth lawn a boddhaol o ganlyniad i ledaeniad y coronafeirws, bydd y gofyniad yn cael ei drin fel pe bai wedi ei fodloni os yw’r person yn darparu gwybodaeth mor llawn a boddhaol ag y bo’n rhesymol ymarferol ac os yw’r wybodaeth ar gael i’r rheoleiddiwr gwasanaethau edrych arni.

Mae rheoliad 7 hefyd wedi ei wneud o dan adran 27(1) o’r Ddeddf. Mae’n diwygio rheoliad 45 o’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (ystafelloedd meddiannaeth sengl ac ystafelloedd a rennir – oedolion). Mae rheoliad 45 yn darparu, yn ddarostyngedig i eithriadau cyfyngedig, fod rhaid i ddarparwr gwasanaeth cartref gofal sicrhau bod pob oedolyn yn cael ei letya mewn ystafelloedd sengl. Mae’r diwygiad yn ehangu’r eithriadau i ganiatáu, o dan amgylchiadau cyfyngedig, i oedolion gael eu lletya mewn ystafelloedd a rennir pan fo angen darparu’r llety o ganlyniad i ledaeniad y coronafeirws.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2016 dccc 2; gweler y diffiniad o “a ragnodir” a “rhagnodedig” yn adran 189.

(2)

Mae’r cyfeiriadau yn adrannau 27(5) a 187(2) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).