(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Gwneir y Rheoliadau hyn mewn ymateb i’r bygythiad difrifol i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlu acíwt difrifol 2 (SARSCoV-2) yng Nghymru. Yn unol ag adran 45B Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 gall Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaethau at ddibenion (ymysg pethau eraill) atal perygl i iechyd y cyhoedd a ddaw o longau, awyrennau, trenau neu gludiant yn cyrraedd unrhyw fan.
Mae’r Rheoliadau’n gosod gofynion ar gategorïau penodol o bobl sy’n cyrraedd Cymru o fan y tu allan i’r ardan deithio gyffredin—
i ddarparu gwybodaeth am ble y byddant yn preswylio yng Nghymru a materion perthnasol eraill, ac
i ynysu am gyfnod o 14 o ddiwrnodau.
Mae rheoliad 4 yn gorfodi personau sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren i ddarparu gwybodaeth ar ffurf electronig i’r Ysgrifennydd Gwladol. Yn ymarferol gwneir hyn drwy gwblhau’r ffurflen ar-lein ar wefan www.gov.uk at y diben hwn. Pan fo person yn cyrraedd yng nghwmni plentyn y bydd y maent yn gyfrifol amdano, mae’n ofynnol iddynt ddarparu gwybodaeth am y plentyn yn ogystal.
Mae rheoliad 5 yn darparu ei bod yn ofynnol i berson hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol o unrhyw newid i’r wybodaeth a ddarparwyd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Gwneir hyn hefyd drwy ddefnyddio’r un cyfleuster ar lein.
Mae Atodlen 1 yn pennu’r mathau o wybodaeth sy’n ofynnol i’w darparu o dan reoliad 4 neu 5. Dyma fydd y wybodaeth y bydd y ofynnol i’w gynnwys wrth gwblhau’r ffurflen ar lein. Mewn ambell achos bydd y wybodaeth sydd yn ofynnol gan Atodlen 1 yn dibynnu ar yr amgylchiadau (er enghraifft, o dan baragraff 1(d) mae’n ofynnol i berson ddarparu manylion pasport neu fanylion dogfen deithio arall os nad oes gan y person basport). Nid yw’n ofynnol i bersonau sydd yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2 ddarparu gwybodaeth o dan reoliad 4 a 5. Os nad yw’r wybodaeth ym meddiant y person nid yw’n ofynnol iddynt ei ddarparu (rheoliad 6).
Mae Rheoliadau 7 ac 8 yn ei gwneud yn ofynnol bod y categorïau isod o bersonau yn ynysu am gyfnod o 14 o ddiwrnodau wedi cyrraedd Cymru—
(a)person sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren o fan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, neu
(b)person sy’n cyrraedd Cymru o Weriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, neu Ynys Manaw, ac sydd wedi cyrraedd o’r ardal deithio gyffredin o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n gorffen ar y diwrnod y mae’r person yn cyrraedd Cymru, neu
(c)person sy’n cyrraedd Cymru o fan arall yn y Deyrnas Unedig sydd, wedi cyrraedd o fan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin yn yr 14 diwrnod blaenorol.
Ni ddylai’r personau hynny adael y fangre neu fod y tu allan i’r fangre lle y byddant yn ynysu cyn diwedd diwrnod olaf yr ynysiad (ac eithrio am resymau nodir yn rheoliad 10).
Mae rheoliad 8 yn darparu hefyd ei bod yn ofynnol i berson sy’n cyrraedd Cymru o ran arall o’r Deyrnas Unedig sydd wedi cyrraedd o fan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin yn y 14 diwrnod blaenorol hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol am gyfeiriad y man lle y byddant yn preswylio a bod yn rhaid iddynt wneud hynny cyn cyrraedd Cymru, neu cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyrraedd Cymru (eto drwy ddefnyddio’r ffurflen ar lein).
Mae Atodlen 2 (a gyflwynir gan reoliad 9) yn nodi’r categorïau o bobl sydd wedi’u eithrio rhag y gofyniad i ynysu. Mae rheoliad 10 yn darparu bod y gofyniad i ynysu’n peidio â bod yn gymwys os yw’r person yn teithio er mwyn gadael Cymru (paragraff (3)), yn nodi’r amgylchiadau cyfyngedig y caniateir i berson fod y tu allan i’r man ymaent yn ynysu pan fo hynny dros dro (paragraff (4)), mae’n caniatau i berson newid y man lle maent yn ynysu, os oes angen iddynt wneud hynny am resymau cyfreithiol, neu os yw hi’n amhosib iddynt a ros yn y man gwreiddiol (paragraff (5)) fel arall ac yn darparu nad ydyw’r gofyniad ynysu’n gymwys i berson sy’n ddarostyngedig i ofynion penodol o dan y Ddeddf Coronafeirws 2020 neu ddeddfwriaeth mewnfudo.
Mae rheoliad 13 yn rhoi’r pŵer i swyddogion yr heddlu orchymyn neu symud person i fan lle maent yn ynysu os ydynt yn rhesymol gredu fod y person yn torri’r gofyniad i ynysu.
Mae rheoliad 14 yn darparu fod torri gofyniad a geir yn y Rheoliadau yma ac atal person rhag arfer swyddogaethau o dan y rheoliadau yma’n drosedd. Gall person sydd yn cael ei ganfod yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau dderbyn dirwy, ac nid oes uchafswm ar y ddirwy a ellid ei rhoi.
Mae rheoliad 16 yn darparu y gellid rhoi cosb benodedig i berson sydd o dan amheuaeth o gyflawni troseddo dan y Rheoliadau yma yn hytrach na’i erlyn. Pan fo’r drosedd honedig yn deillio o dorri’r ddyletswydd ynysu bydd y gosb yn £1000, mewn achosion eraill bydd y gosb yn £60 (£30 os y’i telir o fewn 14 diwrnod) gan godi bob tro y rhoddir cosb benodedig debyg, hyd at uchafswm o £1920.
Mae rheoliad 17 yn nodi’r amgylchiadau y caiff gwybodaeth a ddarperir o dan y Rheoliadau (a Rheoliadau cyfatebol a wnaed mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon) ei datgelu neu ei defnyddio. Mae rheoliad 18 yn atal gwybodaeth a ddarperir o dan y Rheoliadau yma rhag cael ei defnyddio i argyhuddo person mewn achos am unrhyw drosedd ac eithrio achos o dan y Rheoliadau yma, am drosedd o wneud datganiad anwir ac eithrio yn dilyn tyngu llw.
Bydd yn ofynnol adolygu rheidrwydd a chymesuroldeb y Rheoliadau yma bob 21 diwrnod (rheoliad 19).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.