1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 12.01 a.m. ar 8 Mehefin 2020.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-Cov-2);
mae i “y Deddfau Mewnfudo” yr ystyr a roddir i “the Immigration Acts” yn adran 61 o Ddeddf Ffiniau’r DU 2007(1);
[F1ystyr “gwybodaeth am deithiwr” (“passenger information”) yw’r wybodaeth a bennir yn Atodlen 1;] ;
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, garej, tŷ allan, neu unrhyw atodyn i fangre o’r fath;
ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed ac mae unrhyw gyfeiriad at “oedolyn” i’w ddehongli yn unol â hynny;
ystyr “swyddog mewnfudo” (“immigration officer”) yw person sydd wedi ei benodi yn swyddog mewnfudo gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Mewnfudo 1971(2).
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae gan berson gyfrifoldeb am blentyn os oes gan y person—
(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn, neu
(b)cyfrifoldeb rhiant am y plentyn (o fewn ystyr Deddf Plant 1989)(3).
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae i—
“yr ardal deithio gyffredin”(4);
“awyren”(5);
“llong”(6);
“porthladd”(7),
yr un ystyr ag a roddir i “the common travel area”, “aircraft”, “ship” a “port” yn Neddf Mewnfudo 1971.
[F2(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn, nid yw person sy’n cyrraedd gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt (o fewn ystyr rheoliad 9(1)) ar long neu awyren i’w drin fel pe bai wedi bod yn y man hwnnw oni bai—
(a)bod y person yn dod oddi ar y llong neu’r awyren pan fo yn y man, neu
(b)pan na fo’r person yn dod oddi ar y llong neu’r awyren pan fo yn y man, bod unrhyw deithwyr eraill yn mynd ar y llong neu’r awyren yn y man.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(a) (ynghyd â rhl. 11)
F2Rhl. 2(4) wedi ei fewnosod (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(6) (ynghyd â rhl. 7)
Gwybodaeth Cychwyn
2007 p. 30. Diwygiwyd adran 61 gan adran 73(5) o Ddeddf Mewnfudo 2014 (p. 22) ac adran 92(5) o Ddeddf Mewnfudo 2016 (p. 19).
1971 p. 77. Diwygiwyd paragraff 1 gan baragraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf yr Asiantaeth Diogelu Iechyd 2004 (p. 17), a chan O.S. 1993/1813.
Gweler adran 1(3). Mae’n darparu y cyfeirir at y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon gyda’i gilydd yn Neddf Mewnfudo 1971 fel “the common travel area”.
Gweler adran 33(1).
Gweler adran 33(1).
Gweler adran 33(1).