Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 12.01 a.m. ar 8 Mehefin 2020.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-Cov-2);
mae i “y Deddfau Mewnfudo” yr ystyr a roddir i “the Immigration Acts” yn adran 61 o Ddeddf Ffiniau’r DU 2007(1);
[F1ystyr “dyfais” (“device”) yw dyfais feddygol ddiagnostig in vitro o fewn yr ystyr a roddir i “in vitro diagnostic medical device” yn rheoliad 2(1) Reoliadau Dyfeisiadau Meddygol 2002(3);]
[F2ystyr “gwybodaeth am deithiwr” (“passenger information”) yw’r wybodaeth a bennir yn Atodlen 1;] ;
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, garej, tŷ allan, neu unrhyw atodyn i fangre o’r fath;
[F3ystyr “penodolrwydd” (“specificity”) mewn perthynas â dyfais, yw pa mor aml y mae’r ddyfais yn cynhyrchu canlyniad negyddol yn gywir;]
ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed ac mae unrhyw gyfeiriad at “oedolyn” i’w ddehongli yn unol â hynny;
[F4ystyr “prawf cymhwysol” (“qualifying test”) yw prawf sy’n brawf cymhwysol at ddibenion rheoliad 6A;]
[F5ystyr “sensitifrwydd” (“sensitivity”), mewn perthynas â dyfais, yw pa mor aml y mae’r ddyfais yn cynhyrchu canlyniad positif yn gywir;]
ystyr “swyddog mewnfudo” (“immigration officer”) yw person sydd wedi ei benodi yn swyddog mewnfudo gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Mewnfudo 1971(2).
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae gan berson gyfrifoldeb am blentyn os oes gan y person—
(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn, neu
(b)cyfrifoldeb rhiant am y plentyn (o fewn ystyr Deddf Plant 1989)(3).
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae i—
“yr ardal deithio gyffredin”(4);
“awyren”(5);
“llong”(6);
“porthladd”(7),
yr un ystyr ag a roddir i “the common travel area”, “aircraft”, “ship” a “port” yn Neddf Mewnfudo 1971.
[F6(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn, nid yw person sy’n cyrraedd gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt (o fewn ystyr rheoliad 9(1)) ar long neu awyren i’w drin fel pe bai wedi bod yn y man hwnnw oni bai—
(a)bod y person yn dod oddi ar y llong neu’r awyren pan fo yn y man, neu
(b)pan na fo’r person yn dod oddi ar y llong neu’r awyren pan fo yn y man, bod unrhyw deithwyr eraill yn mynd ar y llong neu’r awyren yn y man.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (18.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48), rhlau. 1(2), 3(2)(a) (ynghyd â rhl. 11)
F2Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(a) (ynghyd â rhl. 11)
F3Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (18.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48), rhlau. 1(2), 3(2)(d) (ynghyd â rhl. 11)
F4Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (18.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48), rhlau. 1(2), 3(2)(b) (ynghyd â rhl. 11)
F5Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (18.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48), rhlau. 1(2), 3(2)(c) (ynghyd â rhl. 11)
F6Rhl. 2(4) wedi ei fewnosod (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(6) (ynghyd â rhl. 7)
Gwybodaeth Cychwyn
2007 p. 30. Diwygiwyd adran 61 gan adran 73(5) o Ddeddf Mewnfudo 2014 (p. 22) ac adran 92(5) o Ddeddf Mewnfudo 2016 (p. 19).
1971 p. 77. Diwygiwyd paragraff 1 gan baragraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf yr Asiantaeth Diogelu Iechyd 2004 (p. 17), a chan O.S. 1993/1813.
Gweler adran 1(3). Mae’n darparu y cyfeirir at y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon gyda’i gilydd yn Neddf Mewnfudo 1971 fel “the common travel area”.
Gweler adran 33(1).
Gweler adran 33(1).
Gweler adran 33(1).