RHAN 1Cyffredinol

Enwi a dod i rymI21

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 12.01 a.m. ar 8 Mehefin 2020.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 1 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

Dehongli cyffredinolI12

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-Cov-2);

  • mae i “y Deddfau Mewnfudo” yr ystyr a roddir i “the Immigration Acts” yn adran 61 o Ddeddf Ffiniau’r DU 20072;

  • F2ystyr “gwybodaeth am deithiwr” (“passenger information”) yw’r wybodaeth a bennir yn Atodlen 1; ;

  • mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, garej, tŷ allan, neu unrhyw atodyn i fangre o’r fath;

  • ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed ac mae unrhyw gyfeiriad at “oedolyn” i’w ddehongli yn unol â hynny;

  • ystyr “swyddog mewnfudo” (“immigration officer”) yw person sydd wedi ei benodi yn swyddog mewnfudo gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Mewnfudo 19713.

2

At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae gan berson gyfrifoldeb am blentyn os oes gan y person—

a

gwarchodaeth neu ofal am y plentyn, neu

b

cyfrifoldeb rhiant am y plentyn (o fewn ystyr Deddf Plant 1989)4.

3

Yn y Rheoliadau hyn, mae i—

  • “yr ardal deithio gyffredin”5;

  • “awyren”6;

  • “llong”7;

  • “porthladd”8,

yr un ystyr ag a roddir i “the common travel area”, “aircraft”, “ship” a “port” yn Neddf Mewnfudo 1971.

F14

At ddibenion y Rheoliadau hyn, nid yw person sy’n cyrraedd gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt (o fewn ystyr rheoliad 9(1)) ar long neu awyren i’w drin fel pe bai wedi bod yn y man hwnnw oni bai—

a

bod y person yn dod oddi ar y llong neu’r awyren pan fo yn y man, neu

b

pan na fo’r person yn dod oddi ar y llong neu’r awyren pan fo yn y man, bod unrhyw deithwyr eraill yn mynd ar y llong neu’r awyren yn y man.