RHAN 1Cyffredinol

Enwi a dod i rym1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 12.01 a.m. ar 8 Mehefin 2020.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 1 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

Dehongli cyffredinol2.

(1)

Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-Cov-2);

mae i “y Deddfau Mewnfudo” yr ystyr a roddir i “the Immigration Acts” yn adran 61 o Ddeddf Ffiniau’r DU 20072;
F1ystyr “dyfais” (“device”) yw dyfais feddygol ddiagnostig in vitro o fewn yr ystyr a roddir i “in vitro diagnostic medical device” yn rheoliad 2(1) Reoliadau Dyfeisiadau Meddygol 20024;

F2ystyr “gwybodaeth am deithiwr” (“passenger information”) yw’r wybodaeth a bennir yn Atodlen 1; ;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, garej, tŷ allan, neu unrhyw atodyn i fangre o’r fath;

F3ystyr “penodolrwydd” (“specificity”) mewn perthynas â dyfais, yw pa mor aml y mae’r ddyfais yn cynhyrchu canlyniad negyddol yn gywir;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed ac mae unrhyw gyfeiriad at “oedolyn” i’w ddehongli yn unol â hynny;

F4ystyr “prawf cymhwysol” (“qualifying test”) yw prawf sy’n brawf cymhwysol at ddibenion rheoliad 6A;

F5ystyr “sensitifrwydd” (“sensitivity”), mewn perthynas â dyfais, yw pa mor aml y mae’r ddyfais yn cynhyrchu canlyniad positif yn gywir;

ystyr “swyddog mewnfudo” (“immigration officer”) yw person sydd wedi ei benodi yn swyddog mewnfudo gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Mewnfudo 19713.

(2)

At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae gan berson gyfrifoldeb am blentyn os oes gan y person—

(a)

gwarchodaeth neu ofal am y plentyn, neu

(b)

cyfrifoldeb rhiant am y plentyn (o fewn ystyr Deddf Plant 1989)4.

(3)

Yn y Rheoliadau hyn, mae i—

“yr ardal deithio gyffredin”5;
“awyren”6;
“llong”7;
“porthladd”8,

yr un ystyr ag a roddir i “the common travel area”, “aircraft”, “ship” a “port” yn Neddf Mewnfudo 1971.

F6(4)

At ddibenion y Rheoliadau hyn, nid yw person sy’n cyrraedd gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt (o fewn ystyr rheoliad 9(1)) ar long neu awyren i’w drin fel pe bai wedi bod yn y man hwnnw oni bai—

(a)

bod y person yn dod oddi ar y llong neu’r awyren pan fo yn y man, neu

(b)

pan na fo’r person yn dod oddi ar y llong neu’r awyren pan fo yn y man, bod unrhyw deithwyr eraill yn mynd ar y llong neu’r awyren yn y man.