RHAN 2LL+CGofyniad i ddarparu gwybodaeth
Personau sy’n cyrraedd o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredinLL+C
3.—(1) Yn y Rhan hon mae cyfeiriadau at “P” yn gyfeiriadau at—
(a)person sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren o fan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, neu
(b)person—
(i)sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren o Weriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, neu Ynys Manaw, ac
(ii)sydd wedi bod mewn man y tu allan i’r ardal deithio gyffredin o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben ar y diwrnod pan fo’r person yn cyrraedd.
(2) Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys person a ddisgrifir yn Rhan 1 o Atodlen 2.
Gofyniad i ddarparu gwybodaeth am deithiwrLL+C
4.—(1) Rhaid i P gyflwyno’r wybodaeth ganlynol i’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig cyn gynted â bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cyrraedd Cymru, gan ddefnyddio cyfleuster a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwn—
(a)gwybodaeth am deithiwr ar gyfer P, a
(b)pan fo P yn cyrraedd Cymru yng nghwmni plentyn y mae gan P gyfrifoldeb amdano, gwybodaeth am deithiwr ar gyfer y plentyn,
(2) Pan fo P yn cyrraedd Cymru drwy borthladd--
(a)rhaid i P gydymffurfio â pharagraff (1) cyn gadael y porthladd, a
(b)rhaid i swyddog mewnfudo yn y porthladd ddarparu P unrhyw gynhorthwy y mae’r swyddog yn ei ystyried yn angenrheidiol i alluogi P i gydymffurfio â pharagraff (1).
(3) Nid yw’n ofynnol i P gydymffurfio â pharagraff (1) os yw’r wybodaeth am deithiwr wedi ei darparu’n electronig i’r Ysgrifennydd Gwladol gan ddefnyddio cyfleuster a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw, cyn i P gyrraedd Cymru.
(4) Ond pan fo paragraff (3) yn gymwys, rhaid i P ddarparu tystiolaeth i swyddog mewnfudo bod y wybodaeth am deithiwr wedi ei ddarparu, os gofynnir iddo wneud hynny gan y swyddog.
(5) Pan fo P yn blentyn y mae gwybodaeth am deithiwr mewn cysylltiad ag ef wedi ei darparu gan berson sydd â chyfrifoldeb am P, yn unol â pharagraff (1)(b), nid yw paragraff (1)(a) yn ei gwneud hi’n ofynnol i P ddarparu gwybodaeth am deithiwr ar gyfer P.
Gofyniad i hysbysu ynghylch newidiadau i wybodaeth am deithiwrLL+C
5.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys—
(a)pan fo’n ofynnol gan reoliad 7 neu 8 i P breswylio mewn mangre (ac i beidio â gadael y fangre na bod y tu allan iddi) tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 12), a
(b)pan fo gwybodaeth am deithiwr ar gyfer P yn newid cyn diwedd y diwrnod hwnnw.
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i P ddarparu i’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig wybodaeth am deithiwr sydd wedi ei diweddaru cyn gynted ag y bo’n resymol ymarferol, gan ddefnyddio’r cyfleuster a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.
(3) Pan fo P yn blentyn y mae gan berson arall gyfrifoldeb amdano—
(a)nid yw’n ofynnol i P ddarparu gwybodaeth am deithiwr sydd wedi ei diweddaru o dan baragraff (2), a
(b)mae’n ofynnol i’r person arall, ar ran P, ddarparu’r wybodaeth am deithiwr sydd wedi ei [F1diweddaru] .
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 5(3)(b) wedi ei amnewid (C.) (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(b) (ynghyd â rhl. 11)
Gwybodaeth Cychwyn
Gwybodaeth am deithiwr nad yw ym meddiant neu o dan reolaeth personLL+C
6. Nid oes dim yn rheoliad 4 neu 5 sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth am deithiwr nad yw ym meddiant y person neu o dan ei reolaeth.