RHAN 2Gofyniad i ddarparu gwybodaeth
Personau sy’n cyrraedd o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredinI13
1
Yn y Rhan hon mae cyfeiriadau at “P” yn gyfeiriadau at—
a
person sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren o fan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, neu
b
person—
i
sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren o Weriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, neu Ynys Manaw, ac
ii
sydd wedi bod mewn man y tu allan i’r ardal deithio gyffredin o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben ar y diwrnod pan fo’r person yn cyrraedd.
2
Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys F3—
a
person a ddisgrifir yn Rhan 1 o Atodlen 2,
b
person a ddisgrifir ym mharagraff 12(1)(b) o Atodlen 2 (gweithwyr gweithredol, cynnal a chadw a diogelwch sy’n gweithio ar Dwnnel y Sianel), neu
c
person a ddisgrifir ym mharagraff (3), y mae’r amod ym mharagraff (4) wedi ei fodloni mewn cysylltiad ag ef.
F23
Y disgrifiadau o bersonau yw—
a
person sy’n weithiwr cludiant teithwyr ffyrdd, o fewn ystyr paragraff 6 o Atodlen 2;
b
person a ddisgrifir ym mharagraff 7 o Atodlen 2 (meistri a morwyr);
c
person a ddisgrifir ym mharagraff 8 o Atodlen 2 (peilotiaid ar longau masnach);
d
person a ddisgrifir ym mharagraff 9 o Atodlen 2 (arolygwyr a syrfewyr llongau);
e
person a ddisgrifir ym mharagraff 10 o Atodlen 2 (criw awyren);
f
person a ddisgrifir ym mharagraff 12(1)(a) neu (c) o Atodlen 2 (gyrwyr, criw a phersonau eraill sy’n cyflawni swyddogaethau hanfodol mewn cysylltiad â Thwnnel y Sianel).
4
Mae’r amod a grybwyllir ym mharagraff (2)(c) wedi ei fodloni mewn perthynas â pherson os nad yw’r person, ar ei daith i Gymru, ond wedi teithio—
a
ar long neu awyren nad yw’n cludo teithwyr;
b
mewn rhan o long neu awyren nad yw teithwyr yn cael mynd iddi.
Gofyniad i ddarparu gwybodaeth am deithiwrI24
1
Rhaid i P gyflwyno’r wybodaeth ganlynol i’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig cyn gynted â bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cyrraedd Cymru, gan ddefnyddio cyfleuster a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwn—
a
gwybodaeth am deithiwr ar gyfer P, a
b
pan fo P yn cyrraedd Cymru yng nghwmni plentyn y mae gan P gyfrifoldeb amdano, gwybodaeth am deithiwr ar gyfer y plentyn,
2
Pan fo P yn cyrraedd Cymru drwy borthladd--
a
rhaid i P gydymffurfio â pharagraff (1) cyn gadael y porthladd, a
b
rhaid i swyddog mewnfudo yn y porthladd ddarparu P unrhyw gynhorthwy y mae’r swyddog yn ei ystyried yn angenrheidiol i alluogi P i gydymffurfio â pharagraff (1).
3
Nid yw’n ofynnol i P gydymffurfio â pharagraff (1) os yw’r wybodaeth am deithiwr wedi ei darparu’n electronig i’r Ysgrifennydd Gwladol gan ddefnyddio cyfleuster a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw, cyn i P gyrraedd Cymru.
4
Ond pan fo paragraff (3) yn gymwys, rhaid i P ddarparu tystiolaeth i swyddog mewnfudo bod y wybodaeth am deithiwr wedi ei ddarparu, os gofynnir iddo wneud hynny gan y swyddog.
5
Pan fo P yn blentyn y mae gwybodaeth am deithiwr mewn cysylltiad ag ef wedi ei darparu gan berson sydd â chyfrifoldeb am P, yn unol â pharagraff (1)(b), nid yw paragraff (1)(a) yn ei gwneud hi’n ofynnol i P ddarparu gwybodaeth am deithiwr ar gyfer P.
Gofyniad i hysbysu ynghylch newidiadau i wybodaeth am deithiwrI35
1
Mae paragraff (2) yn gymwys—
a
pan fo’n ofynnol gan reoliad 7 neu 8 i P breswylio mewn mangre (ac i beidio â gadael y fangre na bod y tu allan iddi) tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 12), a
b
pan fo gwybodaeth am deithiwr ar gyfer P yn newid cyn diwedd y diwrnod hwnnw.
2
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i P ddarparu i’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig wybodaeth am deithiwr sydd wedi ei diweddaru cyn gynted ag y bo’n resymol ymarferol, gan ddefnyddio’r cyfleuster a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.
3
Pan fo P yn blentyn y mae gan berson arall gyfrifoldeb amdano—
a
nid yw’n ofynnol i P ddarparu gwybodaeth am deithiwr sydd wedi ei diweddaru o dan baragraff (2), a
b
mae’n ofynnol i’r person arall, ar ran P, ddarparu’r wybodaeth am deithiwr sydd wedi ei F1diweddaru .
Gwybodaeth am deithiwr nad yw ym meddiant neu o dan reolaeth personI46
Nid oes dim yn rheoliad 4 neu 5 sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth am deithiwr nad yw ym meddiant y person neu o dan ei reolaeth.