xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

[F1RHAN 2ALL+CHysbysiad o ganlyniad prawf negyddol etc.

Gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddolLL+C

6A.(1) Rhaid i berson (“P”) sy’n 11 oed neu drosodd sy’n cyrraedd Cymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin feddu wrth gyrraedd—

(a)ar hysbysiad dilys o ganlyniad negyddol i brawf cymhwysol a gymerwyd gan P, a

(b)pan fo P yn oedolyn sy’n cyrraedd Cymru gyda phlentyn sy’n 11 oed neu drosodd y mae gan P gyfrifoldeb drosto, ar hysbysiad dilys o ganlyniad negyddol o brawf cymhwysol a gymerwyd gan y plentyn.

(2) O ran P—

(a)pan fo’n meddu ar hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), a

(b)pan ofynnir iddo wneud hynny gan swyddog mewnfudo,

rhaid i P ddangos yr hysbysiad, naill ai’n ffisegol neu’n ddigidol, os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog mewnfudo.

(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i P os yw P yn blentyn o dan 11 oed sy’n cyrraedd Cymru gydag oedolyn sydd â chyfrifoldeb dros P.

(4) Ym mharagraffau (1) a (2), nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys—

(a)person a ddisgrifir ym mharagraff 2, 3, 4, 7, 8, 9, 10, 11, 12 neu 28 o Atodlen 2,

(b)gweithiwr cludiant ffyrdd fel y’i disgrifir ym mharagraff 6 o Atodlen 2.

(c)person a ddisgrifir mewn unrhyw is-baragraff o baragraff 3(1) o Atodlen 1A.

(5) At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae prawf yn brawf cymhwysol os yw’n cydymffurfio â pharagraff 1 o Atodlen 1A,

(b)mae hysbysiad o ganlyniad negyddol yn ddilys os yw’n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 1A.]