RHAN 3LL+CGofyniad i ynysu etc.

Gofyniad i ynysu: cyrraedd o fan y tu allan i’r Deyrnas UnedigLL+C

7.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”)—

(a)sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren o fan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, neu

(b)sydd —

(i)yn cyrraedd Cymru ar long neu awyren o Weriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, a

(ii)syddF1... wedi cyrraedd yr ardal deithio gyffredin o fan y tu allan i’r ardal honno o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

(2Rhaid i P—

(a)teithio’n uniongyrchol i fangre benodol yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, neu

(b)teithio’n uniongyrchol i ran o’r Deyrnas Unedig heblaw Cymru.

(3Pan fo P yn teithio i fangre benodol yng Nghymru i breswylio ynddi, fel sy’n ofynnol gan baragraff (2)(a), ni chaniateir i P adael na bod y tu allan i’r fangre cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P—

(a)onid yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan reoliad 10(4) (gadael y fangre dros dro), neu

(b)onid yw’r paragraff hwn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P yn rhinwedd rheoliad 10(3) (gadael Cymru).

(4At ddibenion paragraffau (2) a (3), y fangre benodol yw—

(a)y fangre a bennir yng ngwybodaeth am deithiwr P fel y fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn (oni F2... fo is-baragraff (d) yn gymwys i P);

(b)pan fo P yn berson a ddisgrifir—

(i)ym mharagraff 1(1)(a) i (k) o Atodlen 2 nad yw wedi bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2) o’r Atodlen honno, neu

(ii)paragraff 1(1)(l) o’r Atodlen honno,

mangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn;

(c)pan na fo gwybodaeth am deithiwr P yn pennu’r fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn, y fangre a drefnwyd gan P o dan baragraff (5);

(d)pan fo P yn ddarostyngedig i ofyniad a osodir o dan neu yn rhinwedd y Deddfau Mewnfudo i breswylio mewn mangre arbennig yng Nghymru, y fangre honno.

(5Pan na fo gwybodaeth am deithiwr P yn pennu’r fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn, rhaid i P—

(a)wneud trefniadau cyn gynted a bo’n rhesymol ymarferol i breswylio mewn mangre yng Nghymru [F3sy’n addas i breswylio ynddi] tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, a

(b)hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol o gyfeiriad y fangre honno gan ddefnyddio cyfleuster a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.

(6Ond pan fo P wedi cyrraedd Cymru drwy borthladd, rhaid i P gydymffurfio ậ gofynion paragraff (5) cyn i P adael y porthladd.

(7Pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu’r cynorthwy, neu drefnu darpariaeth o’r cynhorthwy, y maent yn ystyried yn angenrheidiol (os o gwbl) i sicrhau y gall P wneud y trefniadau a grybwyllir ym mharagraff (5)(a).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 7 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

Gofyniad i ynysu: cyrraedd o ran arall o’r Deyrnas UnedigLL+C

8.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”)—

(a)sy’n cyrraedd Cymru o rywle arall yn y Deyrnas Unedig, a

(b)sydd o fewn y cyfnod o 14 o diwrnod sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru wedi cyrraedd yr ardal deithio gyffredin o fan y tu allan i‘r ardal honno;

(2Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys—

(a)person—

(i)sy’n cyrraedd Cymru at ddiben dychwelyd i’r fangre yng Nghymru y mae’r person yn preswylio ynddi at ddibenion rheoliad [F47(3); a]

(ii)person a adawodd Cymru dros dro, am un neu ragor o’r resymau a awdurdodir yn rheoliad 10(4);

(b)person—

(i)y mae’n ofynnol iddo breswylio mewn mangre yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig o dan ddarpariaeth mewn Rheoliadau a wneir mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (yn ôl y digwydd) sy’n cyfateb i’r Rheoliadau hyn,

(ii)y caniateir iddo adael y rhan arall honno o’r Deyrnas Unedig dros dro yn rhinwedd y Rheoliadau hynny, a

(iii)sy’n aros yng Nghymru am ddim hwy nag sy’n angenrheidiol.

(3O ran P—

(a)rhaid iddo deithio’n uniongyrchol i fangre yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, a

(b)ni chaiff adael y fangre na bod y tu allan iddi cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P—

(i)onid yw wedi ei awdurdodi gan reoliad 10(4) [F5(gadael y fangre dros dro)] i wneud hynny, neu

(ii)onid yw’r paragraff hwn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P yn rhinwedd rheoliad 10(3) (gadael Cymru).

(4Rhaid i P hefyd—

(a)cyn cyrraedd Cymru, neu

(b)cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyrraedd Cymru,

hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig am gyfeiriad y fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion paragraff (3) gan ddefnyddio cyfleuster a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 8 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

Gofynion ynysu: esemptiadauLL+C

9.  Nid yw rheoliad 7 ac 8 yn gymwys i berson a ddisgrifir—

(a)ym mharagraff 1(1)(a) i (k) o Atodlen 2 sy’n bodloni’r amodau ym mharagraff 2 o’r Atodlen honno;

(b)ym mharagraffau 2 i 36 o Atodlen 2.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 9 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

Gofynion ynysu: eithriadauLL+C

10.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gofyniad i ynysu yn ei gwneud yn ofynnol i berson (“P”) breswylio mewn mangre (a pheidio â gadael y fangre na bod y tu allan iddi) yng Nghymru.

(2Ystyr “gofyniad i ynysu” mewn perthynas â P yw gofyniad a osodir gan—

(a)rheoliad 7(3);

(b)rheoliad 8(3)(b).

(3Mae gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P os yw P yn gadael Cymru, onid yw P y tu allan i’r Deyrnas Unedig dros dro at ddiben a awdurdodir gan baragraff (4)(b) i (j).

(4Caniateir i P adael y fangre a bod y tu allan iddi am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol—

(a)i deithio at ddibenion gadael Cymru yn y modd a ddisgrifir gan baragraff (3);

(b)i gael angenrheidiau sylfaenol (gan gynnwys ar gyfer personau eraill yn y fangre neu unrhyw anifeiliaid anwes yn y fangre), pan na fo’n bosibl neu’n ymarferol—

(i)i berson arall yn y fangre eu cael ar ran P, neu

(ii)eu cael drwy ddanfoniad i’r fangre gan drydydd parti;

(c)i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;

(d)i gael gwasanaeth iechyd a ddarperir gan ymarferydd meddygol cofrestredig, pan fo trefniadau wedi eu gwneud i ddarparu’r gwasanaeth cyn i P gyrraedd y Deyrnas Unedig;

(e)i gynorthwyo person sy’n derbyn gwasanaeth iechyd a ddisgrifir ym mharagraff (d), neu i fod gyda’r person hwnnw os yw P yn blentyn y mae gan y person hwnnw gyfrifoldeb amdano;

(f)i gael gafael ar wasanaethau milfeddygol—

(i)pan fo angen y gwasanaethau hynny ar fyrder ar gyfer anifail anwes yn y fangre, a

(ii)pan na fo’n bosibl i berson arall yn y fangre gael mynediad i’r gwasanaethau hynny;

(g)i wneud gweithgareddau penodedig mewn perthynas â garddwriaeth fwytadwy, ond dim ond os yw P yn preswylio yn y fangre mewn cysylltiad â’r gweithgareddau hynny;

(h)i osgoi salwch neu anaf neu i ddianc rhag risg o niwed;

(i)i fodloni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(j)i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol neu wasanaethau i ddioddefwyr)—

(i)pan fo cael gafael ar y gwasanaeth yn hanfodol i lesiant P, a

(ii)pan na ellir darparu’r gwasanaeth os yw P yn aros yn y fangre;

(k)am resymau tosturiol, gan gynnwys i fynd i angladd—

(i)aelod o deulu P;

(ii)ffrind agos.

(5O ran P—

(a)pan fo rhwymedigaeth gyfreithiol yn ei gwneud yn ofynnol i P newid y fangre y mae’n preswylio ynddi at ddiben gofyniad i ynysu, neu

(b)pan na fo P fel arall yn gallu aros yn y fangre y mae P yn preswylio ynddi at ddiben gofyniad i ynysu,

caiff P deithio’n uniongyrchol i fangre arall yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P; ac mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at fangre, mewn perthynas â gofyniad i ynysu, i’w darllen yn unol â hynny.

(6Pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid i P hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig am gyfeiriad y fangre arall cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol gan ddefnyddio cyfleuster a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.

(7Nid yw gofyniad i ynysu yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan fo P—

(a)wedi ei symud ymaith i le, wedi ei gyfarwyddo i fynd i le neu wedi ei gyfarwyddo i aros mewn lle gan swyddog mewnfudo, cwnstabl neu swyddog iechyd y cyhoedd o dan Atodlen 21 i Ddeddf y Coronafeirws 2020(1);

(b)wedi ei gadw mewn lle yn rhinwedd gofyniad a osodir o dan y Deddfau Mewnfudo.

(8At ddibenion y rheoliad hwn—

ystyr “garddwriaeth fwytadwy” (“edible horticulture) yw tyfu—

(i)

llysiau wedi eu diogelu a dyfir mewn systemau tai gwydr,

(ii)

llysiau maes a dyfir yn yr awyr agored, gan gynnwys llysiau, perlysiau, salad deiliog a thatws,

(iii)

ffrwythau meddal a dyfir yn yr awyr agored neu o dan orchudd,

(iv)

coed sy’n dwyn ffrwyth,

(v)

gwinwydd a choesynnau, neu

(vi)

madarch;

ystyr “gwasanaeth iechyd” (“health service”) yw gwasanaeth a ddarperir ar gyfer y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—

(i)

atal salwch, gwneud diagnosis o salwch neu ei drin, neu

(ii)

hybu neu warchod iechyd y cyhoedd;

ystyr “ymarferydd meddygol cofrestredig” (“registered medical practitioner”) yw person sydd wedi ei gofrestri’n llawn o fewn yr ystyr a roddir i “fully registered” yn Neddf Meddygol 1983(2) sydd yn dal trwydded i ymarfer o dan y Ddeddf honno;

ystyr “gweithgareddau penodedig” (“specified activities”), mewn perthynas â garddwriaeth fwytadwy, yw—

(i)

cynnal a chadw cnydau,

(ii)

cynaeafu cnydau,

(iii)

codi twneli a’u datgymalu,

(iv)

gosod dulliau dyfrhau a’u cynnal,

(v)

hwsmonaeth cnydau,

(vi)

pacio a phrosesu cnydau ar fangreoedd cyflogwyr,

(vii)

paratoi mannau a chyfryngau tyfu a’u datgymalu,

(viii)

gwaith cynhyrchu sylfaenol cyffredinol mewn garddwriaeth fwytadwy,

(ix)

gweithgareddau sy’n ymwneud â goruchwylio timau o weithwyr garddwriaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 10 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

Gofyniad ar bersonau sydd â chyfrifoldeb am blentynLL+C

11.  Pan osodir gofyniad ar blentyn o dan reoliad 7, 8 neu 10, rhaid i berson sydd â chyfrifoldeb am y plentyn gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 11 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwrnod olaf yr ynysuLL+C

12.  At ddibenion rheoliadau 7, 8 a 10, diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod y cyrhaeddodd P yn yr ardal deithio cyffredin o fan y tu allan i’r ardal honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 12 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

(2)

1983 p. 54. Gweler adran 55(1). Diwgiwyd y diffiniad o “fully registered person” gan O.S. 2006/1914, O.S. 2007/3101 a O.S. 2008/1774