RHAN 3Gofyniad i ynysu etc.

Gofyniad i ynysu: cyrraedd o fan y tu allan i’r Deyrnas Unedig7.

(1)

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”)—

(a)

sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren o F1wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu

(b)

sydd —

(i)

yn cyrraedd Cymru ar long neu awyren o F2wlad neu diriogaeth esempt nad yw’n rhan o’r Deyrnas Unedig, a

(ii)

F3sydd wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

(2)

Rhaid i P—

(a)

teithio’n uniongyrchol i fangre benodol yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, neu

(b)

teithio’n uniongyrchol i ran o’r Deyrnas Unedig heblaw Cymru.

(3)

Pan fo P yn teithio i fangre benodol yng Nghymru i breswylio ynddi, fel sy’n ofynnol gan baragraff (2)(a), ni chaniateir i P adael na bod y tu allan i’r fangre cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P—

(a)

onid yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan reoliad 10(4) (gadael y fangre dros dro), neu

(b)

onid yw’r paragraff hwn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P yn rhinwedd rheoliad 10(3) (gadael Cymru).

(4)

At ddibenion paragraffau (2) a (3), y fangre benodol yw—

(a)

y fangre a bennir yng ngwybodaeth am deithiwr P fel y fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn (oni F4... fo is-baragraff (d) yn gymwys i P);

(b)

pan fo P yn berson a ddisgrifir—

(i)

ym mharagraff 1(1)(a) i (k) o Atodlen 2 nad yw wedi bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2) o’r Atodlen honno, neu

(ii)

paragraff 1(1)(l) o’r Atodlen honno,

mangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn;

(c)

pan na fo gwybodaeth am deithiwr P yn pennu’r fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn, y fangre a drefnwyd gan P o dan baragraff (5);

(d)

pan fo P yn ddarostyngedig i ofyniad a osodir o dan neu yn rhinwedd y Deddfau Mewnfudo i breswylio mewn mangre arbennig yng Nghymru, y fangre honno.

(5)

Pan na fo gwybodaeth am deithiwr P yn pennu’r fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn, rhaid i P—

(a)

wneud trefniadau cyn gynted a bo’n rhesymol ymarferol i breswylio mewn mangre yng Nghymru F5sy’n addas i breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, a

(b)

hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol o gyfeiriad y fangre honno gan ddefnyddio cyfleuster a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.

(6)

Ond pan fo P wedi cyrraedd Cymru drwy borthladd, rhaid i P gydymffurfio ậ gofynion paragraff (5) cyn i P adael y porthladd.

(7)

Pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu’r cynorthwy, neu drefnu darpariaeth o’r cynhorthwy, y maent yn ystyried yn angenrheidiol (os o gwbl) i sicrhau y gall P wneud y trefniadau a grybwyllir ym mharagraff (5)(a).

Gofyniad i ynysu: cyrraedd o ran arall o’r Deyrnas Unedig8.

(1)

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”)—

(a)

sy’n cyrraedd Cymru o rywle arall yn y Deyrnas Unedig, a

(b)

sydd o fewn y cyfnod o 14 o diwrnod sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru wedi F6bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt;

(2)

Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys—

(a)

person—

(i)

sy’n cyrraedd Cymru at ddiben dychwelyd i’r fangre yng Nghymru y mae’r person yn preswylio ynddi at ddibenion rheoliad F77(3); a

(ii)

person a adawodd Cymru dros dro, am un neu ragor o’r resymau a awdurdodir yn rheoliad 10(4);

(b)

person—

(i)

y mae’n ofynnol iddo breswylio mewn mangre yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig o dan ddarpariaeth mewn Rheoliadau a wneir mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (yn ôl y digwydd) sy’n cyfateb i’r Rheoliadau hyn,

(ii)

y caniateir iddo adael y rhan arall honno o’r Deyrnas Unedig dros dro yn rhinwedd y Rheoliadau hynny, a

(iii)

sy’n aros yng Nghymru am ddim hwy nag sy’n angenrheidiol.

(3)

O ran P—

(a)

rhaid iddo deithio’n uniongyrchol i fangre yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, a

(b)

ni chaiff adael y fangre na bod y tu allan iddi cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P—

(i)

onid yw wedi ei awdurdodi gan reoliad 10(4) F8(gadael y fangre dros dro) i wneud hynny, neu

(ii)

onid yw’r paragraff hwn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P yn rhinwedd rheoliad 10(3) (gadael Cymru).

(4)

Rhaid i P hefyd—

(a)

cyn cyrraedd Cymru, neu

(b)

cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyrraedd Cymru,

hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig am gyfeiriad y fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion paragraff (3) gan ddefnyddio cyfleuster a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.

Gofynion ynysu: esemptiadau9.

F9(1)

At ddibenion y Rhan hon, ystyr “gwlad neu diriogaeth esempt” yw—

(a)

gwlad neu diriogaeth o fewn yr ardal deithio gyffredin;

(b)

gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3;

ac mae unrhyw gyfeiriad at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” i’w ddehongli yn unol â hynny.

F10(2)

Nid yw rheoliad 7 ac 8 yn gymwys i berson a ddisgrifir—

(a)

ym mharagraff 1(1)(a) i (k) o Atodlen 2 sy’n bodloni’r amodau ym F11mharagraff 1(2) o’r Atodlen honno;

(b)

ym mharagraffau 2 i 36 o Atodlen 2.

Gofynion ynysu: eithriadau10.

(1)

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gofyniad i ynysu yn ei gwneud yn ofynnol i berson (“P”) breswylio mewn mangre (a pheidio â gadael y fangre na bod y tu allan iddi) yng Nghymru.

(2)

Ystyr “gofyniad i ynysu” mewn perthynas â P yw gofyniad a osodir gan—

(a)

rheoliad 7(3);

(b)

rheoliad 8(3)(b).

(3)

Mae gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P os yw P yn gadael Cymru, onid yw P y tu allan F12i Gymru dros dro at ddiben a awdurdodir gan baragraff (4)(b) i (k).

(4)

Caniateir i P adael y fangre a bod y tu allan iddi am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol—

(a)

i deithio at ddibenion gadael Cymru yn y modd a ddisgrifir gan baragraff (3);

(b)

i gael angenrheidiau sylfaenol (gan gynnwys ar gyfer personau eraill yn y fangre neu unrhyw anifeiliaid anwes yn y fangre), pan na fo’n bosibl neu’n ymarferol—

(i)

i berson arall yn y fangre eu cael ar ran P, neu

(ii)

eu cael drwy ddanfoniad i’r fangre gan drydydd parti;

(c)

i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;

(d)

i gael gwasanaeth iechyd a ddarperir gan ymarferydd meddygol cofrestredig, pan fo trefniadau wedi eu gwneud i ddarparu’r gwasanaeth cyn i P gyrraedd y Deyrnas Unedig;

(e)

i gynorthwyo person sy’n derbyn gwasanaeth iechyd a ddisgrifir ym mharagraff (d), neu i fod gyda’r person hwnnw os yw P yn blentyn y mae gan y person hwnnw gyfrifoldeb amdano;

(f)

i gael gafael ar wasanaethau milfeddygol—

(i)

pan fo angen y gwasanaethau hynny ar fyrder ar gyfer anifail anwes yn y fangre, a

(ii)

pan na fo’n bosibl i berson arall yn y fangre gael mynediad i’r gwasanaethau hynny;

(g)

i wneud gweithgareddau penodedig mewn perthynas â garddwriaeth fwytadwy, ond dim ond os yw P yn preswylio yn y fangre mewn cysylltiad â’r gweithgareddau hynny;

(h)

i osgoi salwch neu anaf neu i ddianc rhag risg o niwed;

(i)

i fodloni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(j)

i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol neu wasanaethau i ddioddefwyr)—

(i)

pan fo cael gafael ar y gwasanaeth yn hanfodol i lesiant P, a

(ii)

pan na ellir darparu’r gwasanaeth os yw P yn aros yn y fangre;

F13(ja)

pan fo P yn cystadlu mewn digwyddiad chwaraeon a bennir yn Atodlen 4 neu’n darparu hyfforddiant neu gymorth arall i berson sy’n cystadlu mewn digwyddiad o’r fath, i gymryd rhan yn y digwyddiad neu i ymgymryd â hyfforddiant neu weithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad;

(jb)

pan fo P yn gwasanaethu fel swyddog mewn digwyddiad chwaraeon o’r fath, neu’n ymwneud â’i gynnal, i fynd i’r digwyddiad neu i ymgymryd â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwasanaethu fel swyddog neu gynnal y digwyddiad;

(jc)

pan fo P, yng nghwrs ei waith, yn ymwneud â darlledu digwyddiad chwaraeon o’r fath, i fynd i’r digwyddiad at ddiben y darllediad neu i ymgymryd â gweithgareddau paratoi sy’n gysylltiedig â darlledu’r digwyddiad;

(jd)

pan fo P, yng nghwrs ei waith, yn ymwneud â gweithgarwch newyddiadurol mewn digwyddiad chwaraeon o’r fath, i fynd i’r digwyddiad at ddiben ymgymryd â’r gweithgarwch hwnnw;

(je)

pan fo P yn athletwr elît sy’n preswylio yng Nghymru ac yn dychwelyd o gystadleuaeth elît dramor, i hyfforddi neu gystadlu;

(jf)

pan fo P yn darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît sy’n preswylio yng Nghymru a bod P yn dychwelyd o gystadleuaeth elît dramor pan oedd P yn darparu hyfforddiant neu gymorth arall o’r fath i athletwr, i ddarparu’r hyfforddiant neu’r cymorth arall hwnnw;

(jg)

pan fo P yn dychwelyd o gystadleuaeth elît dramor yr oedd P yn gwasanaethu fel swyddog ynddi, neu’n ymwneud â’i chynnal, i wasanaethu fel swyddog mewn cystadleuaeth elît ddomestig neu i ymwneud â’i chynnal;

(k)

am resymau tosturiol, gan gynnwys i fynd i angladd—

(i)

aelod o deulu P;

(ii)

ffrind agos.

(5)

O ran P—

(a)

pan fo rhwymedigaeth gyfreithiol yn ei gwneud yn ofynnol i P newid y fangre y mae’n preswylio ynddi at ddiben gofyniad i ynysu, neu

(b)

pan na fo P fel arall yn gallu aros yn y fangre y mae P yn preswylio ynddi at ddiben gofyniad i ynysu,

caiff P deithio’n uniongyrchol i fangre arall yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P; ac mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at fangre, mewn perthynas â gofyniad i ynysu, i’w darllen yn unol â hynny.

(6)

Pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid i P hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig am gyfeiriad y fangre arall cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol gan ddefnyddio cyfleuster a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.

(7)

Nid yw gofyniad i ynysu yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan fo P—

(a)

wedi ei symud ymaith i le, wedi ei gyfarwyddo i fynd i le neu wedi ei gyfarwyddo i aros mewn lle gan swyddog mewnfudo, cwnstabl neu swyddog iechyd y cyhoedd o dan Atodlen 21 i Ddeddf y Coronafeirws 20209;

(b)

wedi ei gadw mewn lle yn rhinwedd gofyniad a osodir o dan y Deddfau Mewnfudo.

(8)

At ddibenion y rheoliad hwn—

F14(a)

ystyr “garddwriaeth fwytadwy” (“edible horticulture) yw tyfu—

  1. (i)

    llysiau wedi eu diogelu a dyfir mewn systemau tai gwydr,

  2. (ii)

    llysiau maes a dyfir yn yr awyr agored, gan gynnwys llysiau, perlysiau, salad deiliog a thatws,

  3. (iii)

    ffrwythau meddal a dyfir yn yr awyr agored neu o dan orchudd,

  4. (iv)

    coed sy’n dwyn ffrwyth,

  5. (v)

    gwinwydd a choesynnau, neu

  6. (vi)

    madarch;

ystyr “gwasanaeth iechyd” (“health service”) yw gwasanaeth a ddarperir ar gyfer y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—

  1. (i)

    atal salwch, gwneud diagnosis o salwch neu ei drin, neu

  2. (ii)

    hybu neu warchod iechyd y cyhoedd;

ystyr “ymarferydd meddygol cofrestredig” (“registered medical practitioner”) yw person sydd wedi ei gofrestri’n llawn o fewn yr ystyr a roddir i “fully registered” yn Neddf Meddygol 198310 sydd yn dal trwydded i ymarfer o dan y Ddeddf honno;

ystyr “gweithgareddau penodedig” (“specified activities”), mewn perthynas â garddwriaeth fwytadwy, yw—

  1. (i)

    cynnal a chadw cnydau,

  2. (ii)

    cynaeafu cnydau,

  3. (iii)

    codi twneli a’u datgymalu,

  4. (iv)

    gosod dulliau dyfrhau a’u cynnal,

  5. (v)

    hwsmonaeth cnydau,

  6. (vi)

    pacio a phrosesu cnydau ar fangreoedd cyflogwyr,

  7. (vii)

    paratoi mannau a chyfryngau tyfu a’u datgymalu,

  8. (viii)

    gwaith cynhyrchu sylfaenol cyffredinol mewn garddwriaeth fwytadwy,

  9. (ix)

    gweithgareddau sy’n ymwneud â goruchwylio timau o weithwyr garddwriaeth.

F15(b)

ystyr “cystadleuaeth elît ddomestig” yw cystadleuaeth elît sy’n cael ei chynnal yn y Deyrnas Unedig;

(c)

ystyr “cystadleuaeth elît” yw cystadleuaeth chwaraeon lle y mae unrhyw un neu ragor o’r cyfranogwyr yn cystadlu—

(i)

i ennill bywoliaeth, neu

(ii)

i gymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad, neu fel rhan o broses ddethol ar gyfer hynny;

(d)

ystyr “cystadleuaeth elît dramor” yw cystadleuaeth elît sy’n cael ei chynnal y tu allan i’r Deyrnas Unedig; ac mae P i’w drin fel pe bai’n dychwelyd o’r gystadleuaeth honno os yw P, o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â diwrnod ynysu olaf P, wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt at ddibenion y gystadleuaeth honno;

(e)

ystyr “athletwr elît sy’n preswylio yng Nghymru” yw person sy’n preswylio yng Nghymru fel arfer ac—

(i)

yn ennill bywoliaeth o gystadlu mewn camp, neu

(ii)

yn athletwr elît o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 1 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020.

Gofyniad ar bersonau sydd â chyfrifoldeb am blentyn11.

Pan osodir gofyniad ar blentyn o dan reoliad 7, 8 neu 10, rhaid i berson sydd â chyfrifoldeb am y plentyn gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad.

Annotations:
Commencement Information

I5Rhl. 11 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwrnod olaf yr ynysu12.

At ddibenion rheoliadau 7, 8 a 10, diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod F16yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf .