Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 28/11/2020
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 21/11/2020.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
7.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”)—
(a)sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren o [F1wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt] , neu
(b)sydd —
(i)yn cyrraedd Cymru ar long neu awyren o [F2wlad neu diriogaeth esempt nad yw’n rhan o’r Deyrnas Unedig] , a
F3(ii)[F4sydd wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt] o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(2) Rhaid i P—
(a)teithio’n uniongyrchol i fangre benodol yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, neu
(b)teithio’n uniongyrchol i ran o’r Deyrnas Unedig heblaw Cymru.
(3) Pan fo P yn teithio i fangre benodol yng Nghymru i breswylio ynddi, fel sy’n ofynnol gan baragraff (2)(a), ni chaniateir i P adael na bod y tu allan i’r fangre cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P—
(a)onid yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan reoliad 10(4) (gadael y fangre dros dro), neu
(b)onid yw’r paragraff hwn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P yn rhinwedd rheoliad 10(3) (gadael Cymru).
(4) At ddibenion paragraffau (2) a (3), y fangre benodol yw—
(a)y fangre a bennir yng ngwybodaeth am deithiwr P fel y fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn (oni F5... fo is-baragraff (d) yn gymwys i P);
(b)pan fo P yn berson a ddisgrifir—
(i)ym mharagraff 1(1)(a) i (k) o Atodlen 2 nad yw wedi bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2) o’r Atodlen honno, neu
(ii)paragraff 1(1)(l) o’r Atodlen honno,
mangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn;
(c)pan na fo gwybodaeth am deithiwr P yn pennu’r fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn, y fangre a drefnwyd gan P o dan baragraff (5);
(d)pan fo P yn ddarostyngedig i ofyniad a osodir o dan neu yn rhinwedd y Deddfau Mewnfudo i breswylio mewn mangre arbennig yng Nghymru, y fangre honno.
(5) Pan na fo gwybodaeth am deithiwr P yn pennu’r fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn, rhaid i P—
(a)wneud trefniadau cyn gynted a bo’n rhesymol ymarferol i breswylio mewn mangre yng Nghymru [F6sy’n addas i breswylio ynddi] tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, a
(b)hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol o gyfeiriad y fangre honno gan ddefnyddio cyfleuster a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.
(6) Ond pan fo P wedi cyrraedd Cymru drwy borthladd, rhaid i P gydymffurfio ậ gofynion paragraff (5) cyn i P adael y porthladd.
(7) Pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu’r cynorthwy, neu drefnu darpariaeth o’r cynhorthwy, y maent yn ystyried yn angenrheidiol (os o gwbl) i sicrhau y gall P wneud y trefniadau a grybwyllir ym mharagraff (5)(a).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 7(1)(a) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(2)(a) (ynghyd â rhl. 7)
F2Geiriau yn rhl. 7(1)(b)(i) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(2)(b) (ynghyd â rhl. 7)
F3Rhl. 7(1)(b)(ii) comma wedi ei hepgor (15.6.2020 am 5.38 p.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(c)(i) (ynghyd â rhl. 11)
F4Geiriau yn rhl. 7(1)(b)(ii) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(2)(c) (ynghyd â rhl. 7)
F5Gair yn rhl. 7(4)(a) wedi ei hepgor (15.6.2020 am 5.38 p.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(c)(ii) (ynghyd â rhl. 11)
F6Geiriau yn rhl. 7(5)(a) wedi eu mewnosod (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(c)(iii) (ynghyd â rhl. 11)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhl. 7(1)(b) addaswyd (11.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/726), rhlau. 1(2), 3
Gwybodaeth Cychwyn
8.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”)—
(a)sy’n cyrraedd Cymru o rywle arall yn y Deyrnas Unedig, a
(b)sydd o fewn y cyfnod o 14 o diwrnod sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru wedi [F7bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt] ;
(2) Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys—
(a)person—
(i)sy’n cyrraedd Cymru at ddiben dychwelyd i’r fangre yng Nghymru y mae’r person yn preswylio ynddi at ddibenion rheoliad [F87(3); a]
(ii)person a adawodd Cymru dros dro, am un neu ragor o’r resymau a awdurdodir yn rheoliad 10(4);
(b)person—
(i)y mae’n ofynnol iddo breswylio mewn mangre yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig o dan ddarpariaeth mewn Rheoliadau a wneir mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (yn ôl y digwydd) sy’n cyfateb i’r Rheoliadau hyn,
(ii)y caniateir iddo adael y rhan arall honno o’r Deyrnas Unedig dros dro yn rhinwedd y Rheoliadau hynny, a
(iii)sy’n aros yng Nghymru am ddim hwy nag sy’n angenrheidiol.
(3) O ran P—
(a)rhaid iddo deithio’n uniongyrchol i fangre yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, a
(b)ni chaiff adael y fangre na bod y tu allan iddi cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P—
(i)onid yw wedi ei awdurdodi gan reoliad 10(4) [F9(gadael y fangre dros dro)] i wneud hynny, neu
(ii)onid yw’r paragraff hwn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P yn rhinwedd rheoliad 10(3) (gadael Cymru).
(4) Rhaid i P hefyd—
(a)cyn cyrraedd Cymru, neu
(b)cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyrraedd Cymru,
hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig am gyfeiriad y fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion paragraff (3) gan ddefnyddio cyfleuster a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F7Geiriau yn rhl. 8(1)(b) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(3) (ynghyd â rhl. 7)
F8Geiriau yn rhl. 8(2)(a)(i) wedi eu hamnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(d)(i) (ynghyd â rhl. 11)
F9Geiriau yn rhl. 8(3)(b)(i) wedi eu hamnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(d)(ii) (ynghyd â rhl. 11)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C2Rhl. 8(1) addaswyd (11.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/726), rhlau. 1(2), 3
Gwybodaeth Cychwyn
9.—[F10(1) At ddibenion y Rhan hon, ystyr “gwlad neu diriogaeth esempt” yw—
(a)gwlad neu diriogaeth o fewn yr ardal deithio gyffredin;
(b)gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3;
ac mae unrhyw gyfeiriad at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” i’w ddehongli yn unol â hynny.]
[F11(2)] Nid yw rheoliad 7 ac 8 yn gymwys i berson a ddisgrifir—
(a)ym mharagraff 1(1)(a) i (k) o Atodlen 2 sy’n bodloni’r amodau ym [F12mharagraff 1(2)] o’r Atodlen honno;
(b)ym mharagraffau 2 i [F1338] o Atodlen 2.
Diwygiadau Testunol
F10Rhl. 9(1) wedi ei fewnosod (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(4)(b) (ynghyd â rhl. 7)
F11Rhl. 9(2): rhl. 9 wedi ei ailrifo fel rhl. 9(2) (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(4)(a) (ynghyd â rhl. 7)
F12Geiriau yn rhl. 9(2)(a) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 9(2)
F13Gair yn rhl. 9(2) wedi ei amnewid (22.8.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886), rhlau. 1(2), 6
Gwybodaeth Cychwyn
10.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gofyniad i ynysu yn ei gwneud yn ofynnol i berson (“P”) breswylio mewn mangre (a pheidio â gadael y fangre na bod y tu allan iddi) yng Nghymru.
(2) Ystyr “gofyniad i ynysu” mewn perthynas â P yw gofyniad a osodir gan—
(a)rheoliad 7(3);
(b)rheoliad 8(3)(b).
(3) Mae gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P os yw P yn gadael Cymru, onid yw P y tu allan [F14i Gymru dros dro at ddiben a awdurdodir gan baragraff (4)(b) i (k).]
(4) Caniateir i P adael y fangre a bod y tu allan iddi am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol—
(a)i deithio at ddibenion gadael Cymru yn y modd a ddisgrifir gan baragraff (3);
(b)i gael angenrheidiau sylfaenol (gan gynnwys ar gyfer personau eraill yn y fangre neu unrhyw anifeiliaid anwes yn y fangre), pan na fo’n bosibl neu’n ymarferol—
(i)i berson arall yn y fangre eu cael ar ran P, neu
(ii)eu cael drwy ddanfoniad i’r fangre gan drydydd parti;
(c)i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;
(d)i gael gwasanaeth iechyd a ddarperir gan ymarferydd meddygol cofrestredig, pan fo trefniadau wedi eu gwneud i ddarparu’r gwasanaeth cyn i P gyrraedd y Deyrnas Unedig;
(e)i gynorthwyo person sy’n derbyn gwasanaeth iechyd a ddisgrifir ym mharagraff (d), neu i fod gyda’r person hwnnw os yw P yn blentyn y mae gan y person hwnnw gyfrifoldeb amdano;
(f)i gael gafael ar wasanaethau milfeddygol—
(i)pan fo angen y gwasanaethau hynny ar fyrder ar gyfer anifail anwes yn y fangre, a
(ii)pan na fo’n bosibl i berson arall yn y fangre gael mynediad i’r gwasanaethau hynny;
(g)i wneud gweithgareddau penodedig mewn perthynas â garddwriaeth fwytadwy, ond dim ond os yw P yn preswylio yn y fangre mewn cysylltiad â’r gweithgareddau hynny;
(h)i osgoi salwch neu anaf neu i ddianc rhag risg o niwed;
(i)i fodloni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(j)i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol neu wasanaethau i ddioddefwyr)—
(i)pan fo cael gafael ar y gwasanaeth yn hanfodol i lesiant P, a
(ii)pan na ellir darparu’r gwasanaeth os yw P yn aros yn y fangre;
(ja)pan fo P yn cystadlu mewn digwyddiad chwaraeon a bennir yn Atodlen 4 neu’n darparu hyfforddiant neu gymorth arall i berson sy’n cystadlu mewn digwyddiad o’r fath, i gymryd rhan yn y digwyddiad neu i ymgymryd â hyfforddiant neu weithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad;
(jb)pan fo P yn gwasanaethu fel swyddog mewn digwyddiad chwaraeon o’r fath, neu’n ymwneud â’i gynnal, i fynd i’r digwyddiad neu i ymgymryd â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwasanaethu fel swyddog neu gynnal y digwyddiad;
(jc)pan fo P, yng nghwrs ei waith, yn ymwneud â darlledu digwyddiad chwaraeon o’r fath, i fynd i’r digwyddiad at ddiben y darllediad neu i ymgymryd â gweithgareddau paratoi sy’n gysylltiedig â darlledu’r digwyddiad;
(jd)pan fo P, yng nghwrs ei waith, yn ymwneud â gweithgarwch newyddiadurol mewn digwyddiad chwaraeon o’r fath, i fynd i’r digwyddiad at ddiben ymgymryd â’r gweithgarwch hwnnw;
F15(je). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F15(jf). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F15(jg). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
[F16(jh)pan fo P yn athletwr elît sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i gael un neu ragor o archwiliadau meddygol, i fynd i’r archwiliad hwnnw, ar yr amod—
(i)bod yr archwiliad meddygol at ddiben busnes sy’n penderfynu pa un ai i gynnig contract i P i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît ar ran y busnes hwnnw,
(ii)bod gan P gadarnhad ysgrifenedig yn ei feddiant oddi wrth y busnes hwnnw o’r trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (i), a
(iii)bod y trefniadau hynny wedi eu gwneud cyn i P gyrraedd y Deyrnas Unedig;
(ji)pan fo P yn berson sy’n teithio gydag athletwr elît at ddiben is-baragraff (jh), i ddarparu cynorthwy a chymorth i’r athletwr elît hwnnw mewn cysylltiad ag archwiliad meddygol o’r fath;
(jj)pan fo P yn athletwr elît sydd wedi contractio â busnes i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît, i gymryd rhan mewn cystadleuaeth o’r fath neu ymgymryd â hyfforddiant neu weithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth elît honno;]
(k)am resymau tosturiol, gan gynnwys i fynd i angladd—
(i)aelod o deulu P;
(ii)ffrind agos.
(5) O ran P—
(a)pan fo rhwymedigaeth gyfreithiol yn ei gwneud yn ofynnol i P newid y fangre y mae’n preswylio ynddi at ddiben gofyniad i ynysu, neu
(b)pan na fo P fel arall yn gallu aros yn y fangre y mae P yn preswylio ynddi at ddiben gofyniad i ynysu,
caiff P deithio’n uniongyrchol i fangre arall yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P; ac mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at fangre, mewn perthynas â gofyniad i ynysu, i’w darllen yn unol â hynny.
(6) Pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid i P hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig am gyfeiriad y fangre arall cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol gan ddefnyddio cyfleuster a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.
(7) Nid yw gofyniad i ynysu yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan fo P—
(a)wedi ei symud ymaith i le, wedi ei gyfarwyddo i fynd i le neu wedi ei gyfarwyddo i aros mewn lle gan swyddog mewnfudo, cwnstabl neu swyddog iechyd y cyhoedd o dan Atodlen 21 i Ddeddf y Coronafeirws 2020(1);
(b)wedi ei gadw mewn lle yn rhinwedd gofyniad a osodir o dan y Deddfau Mewnfudo.
(8) At ddibenion y rheoliad hwn—
[F17mae i “athletwr elît” (“elite athlete”) yr un ystyr ag ym mharagraff 38(2)(a) o Atodlen 2]
[F17mae i “cystadleuaeth elît” (“elite competition”) yr un ystyr ag ym mharagraff 38(2)(b) o Atodlen 2]
[F18(a)] ystyr “garddwriaeth fwytadwy” (“edible horticulture”) yw tyfu—
llysiau wedi eu diogelu a dyfir mewn systemau tai gwydr,
llysiau maes a dyfir yn yr awyr agored, gan gynnwys llysiau, perlysiau, salad deiliog a thatws,
ffrwythau meddal a dyfir yn yr awyr agored neu o dan orchudd,
coed sy’n dwyn ffrwyth,
gwinwydd a choesynnau, neu
madarch;
ystyr “gwasanaeth iechyd” (“health service”) yw gwasanaeth a ddarperir ar gyfer y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—
atal salwch, gwneud diagnosis o salwch neu ei drin, neu
hybu neu warchod iechyd y cyhoedd;
ystyr “ymarferydd meddygol cofrestredig” (“registered medical practitioner”) yw person sydd wedi ei gofrestri’n llawn o fewn yr ystyr a roddir i “fully registered” yn Neddf Meddygol 1983(2) sydd yn dal trwydded i ymarfer o dan y Ddeddf honno;
ystyr “gweithgareddau penodedig” (“specified activities”), mewn perthynas â garddwriaeth fwytadwy, yw—
cynnal a chadw cnydau,
cynaeafu cnydau,
codi twneli a’u datgymalu,
gosod dulliau dyfrhau a’u cynnal,
hwsmonaeth cnydau,
pacio a phrosesu cnydau ar fangreoedd cyflogwyr,
paratoi mannau a chyfryngau tyfu a’u datgymalu,
gwaith cynhyrchu sylfaenol cyffredinol mewn garddwriaeth fwytadwy,
gweithgareddau sy’n ymwneud â goruchwylio timau o weithwyr garddwriaeth.
F19(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F19(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F19(d). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F19(e). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F14Geiriau yn rhl. 10(3) wedi eu hamnewid (C.) (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 5(1)(a)(i) (ynghyd â rhl. 7)
F15Rhl. 10(4)(je)-(jg) wedi ei hepgor (22.8.2020 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886), rhlau. 1(2), 7(2)
F16Rhl. 10(4)(jh)-(jj) wedi eu mewnosod (26.9.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 (O.S. 2020/1042), rhlau. 1(2), 4(2)
F17Geiriau yn rhl. 10(8) wedi eu mewnosod (26.9.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 (O.S. 2020/1042), rhlau. 1(2), 4(3)
F18Geiriau yn rhl. 10(8)(a) in rhl. 10(8) wedi ei ailrifo fel rhl. 10(8)(a) (C.) (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 5(1)(c)(i) (ynghyd â rhl. 7)
F19Rhl. 10(8)(b)-(e) wedi ei hepgor (22.8.2020 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886), rhlau. 1(2), 7(3)
Gwybodaeth Cychwyn
11. Pan osodir gofyniad ar blentyn o dan reoliad 7, 8 neu 10, rhaid i berson sydd â chyfrifoldeb am y plentyn gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad.
12. At ddibenion rheoliadau 7, 8 a 10, diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod [F20yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf] .
Diwygiadau Testunol
F20Geiriau yn rhl. 12 wedi eu hamnewid (C.) (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(5) (ynghyd â rhl. 7)
Gwybodaeth Cychwyn
12A.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan osodir gofyniad i ynysu (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2)) ar berson (“P”) oherwydd fod P—
(a)wedi cyrraedd Cymru o Ddenmarc, neu
(b)wedi bod yn Nenmarc o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(2) Mae’r gofyniad i ynysu a osodir ar P hefyd yn cael ei osod ar bob aelod o aelwyd P.
(3) Er gwaethaf rheoliad 9(2), mae rheoliadau 7 ac 8 yn gymwys i P.
(4) Nid yw aelod o aelwyd P wedi’i eithrio o’r gofyniad i ynysu yn rhinwedd rheoliad 9(2).
(5) Yn unol â hynny, nid yw P nac unrhyw aelod o aelwyd P i’w drin fel person a ddisgrifir mewn unrhyw baragraff o Atodlen 2.
(6) At ddibenion rheoliad 10, mae aelod o aelwyd P i’w drin fel pe bai’r person hwnnw yw P.
(7) Mae rheoliad 10 yn gymwys i P (ac aelod o aelwyd P yn rhinwedd paragraff (6)) fel pe bai, yn lle paragraff (4) o’r rheoliad hwnnw, y canlynol yn cael ei amnewid—
“(4) Caniateir i P adael y fangre a bod y tu allan iddi—
(a)am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol—
(i)i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;
[F22(ii)i osgoi salwch difrifol, anaf difrifol neu risg arall o niwed difrifol;]
[F23(iii) er mwyn teithio at ddiben ymadael â Chymru;]
(b)os yw cwnstabl yn dweud fod yn rhaid gwneud hynny.”]
Diwygiadau Testunol
F21Rhl. 12A wedi ei fewnosod (7.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1237), rhlau. 1(2), 2
F22Rhl. 12A(7) wedi ei amnewid (14.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1288), rhlau. 1(2), 2(2)(b)(i)
F23Geiriau yn rhl. 12A(7) wedi eu mewnosod (14.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1288), rhlau. 1(2), 2(2)(b)(ii)
1983 p. 54. Gweler adran 55(1). Diwgiwyd y diffiniad o “fully registered person” gan O.S. 2006/1914, O.S. 2007/3101 a O.S. 2008/1774
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: