xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
7.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”)—
(a)sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren o [F1wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt] , neu
(b)sydd —
(i)yn cyrraedd Cymru ar long neu awyren o [F2wlad neu diriogaeth esempt nad yw’n rhan o’r Deyrnas Unedig] , a
F3(ii)[F4sydd wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt] o fewn y cyfnod o [F510] o ddiwrnodau sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(2) Rhaid i P—
(a)teithio’n uniongyrchol i fangre benodol yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, neu
(b)teithio’n uniongyrchol i ran o’r Deyrnas Unedig heblaw Cymru.
(3) Pan fo P yn teithio i fangre benodol yng Nghymru i breswylio ynddi, fel sy’n ofynnol gan baragraff (2)(a), ni chaniateir i P adael na bod y tu allan i’r fangre cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P—
(a)onid yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan reoliad 10(4) (gadael y fangre dros dro), neu
(b)onid yw’r paragraff hwn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P yn rhinwedd rheoliad 10(3) (gadael Cymru).
(4) At ddibenion paragraffau (2) a (3), y fangre benodol yw—
(a)y fangre a bennir yng ngwybodaeth am deithiwr P fel y fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn (oni F6... fo is-baragraff (d) yn gymwys i P);
(b)pan fo P yn berson a ddisgrifir—
(i)ym mharagraff 1(1)(a) i (k) o Atodlen 2 nad yw wedi bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2) o’r Atodlen honno, neu
(ii)paragraff 1(1)(l) o’r Atodlen honno,
mangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn;
(c)pan na fo gwybodaeth am deithiwr P yn pennu’r fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn, y fangre a drefnwyd gan P o dan baragraff (5);
(d)pan fo P yn ddarostyngedig i ofyniad a osodir o dan neu yn rhinwedd y Deddfau Mewnfudo i breswylio mewn mangre arbennig yng Nghymru, y fangre honno.
(5) Pan na fo gwybodaeth am deithiwr P yn pennu’r fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn, rhaid i P—
(a)wneud trefniadau cyn gynted a bo’n rhesymol ymarferol i breswylio mewn mangre yng Nghymru [F7sy’n addas i breswylio ynddi] tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, a
(b)hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol o gyfeiriad y fangre honno gan ddefnyddio cyfleuster a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.
(6) Ond pan fo P wedi cyrraedd Cymru drwy borthladd, rhaid i P gydymffurfio ậ gofynion paragraff (5) cyn i P adael y porthladd.
(7) Pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu’r cynorthwy, neu drefnu darpariaeth o’r cynhorthwy, y maent yn ystyried yn angenrheidiol (os o gwbl) i sicrhau y gall P wneud y trefniadau a grybwyllir ym mharagraff (5)(a).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 7(1)(a) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(2)(a) (ynghyd â rhl. 7)
F2Geiriau yn rhl. 7(1)(b)(i) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(2)(b) (ynghyd â rhl. 7)
F3Rhl. 7(1)(b)(ii) comma wedi ei hepgor (15.6.2020 am 5.38 p.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(c)(i) (ynghyd â rhl. 11)
F4Geiriau yn rhl. 7(1)(b)(ii) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(2)(c) (ynghyd â rhl. 7)
F5Gair yn rhl. 7(1)(b)(ii) wedi ei amnewid (10.12.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1477), rhlau. 1(2), 2(a)(ii)
F6Gair yn rhl. 7(4)(a) wedi ei hepgor (15.6.2020 am 5.38 p.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(c)(ii) (ynghyd â rhl. 11)
F7Geiriau yn rhl. 7(5)(a) wedi eu mewnosod (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(c)(iii) (ynghyd â rhl. 11)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhl. 7(1)(b) addaswyd (11.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/726), rhlau. 1(2), 3
Gwybodaeth Cychwyn
8.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”)—
(a)sy’n cyrraedd Cymru o rywle arall yn y Deyrnas Unedig, a
(b)sydd o fewn y cyfnod o [F810] o diwrnod sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru wedi [F9bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt] ;
(2) Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys—
(a)person—
(i)sy’n cyrraedd Cymru at ddiben dychwelyd i’r fangre yng Nghymru y mae’r person yn preswylio ynddi at ddibenion rheoliad [F107(3); a]
(ii)person a adawodd Cymru dros dro, am un neu ragor o’r resymau a awdurdodir yn rheoliad 10(4);
(b)person—
(i)y mae’n ofynnol iddo breswylio mewn mangre yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig o dan ddarpariaeth mewn Rheoliadau a wneir mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (yn ôl y digwydd) sy’n cyfateb i’r Rheoliadau hyn,
(ii)y caniateir iddo adael y rhan arall honno o’r Deyrnas Unedig dros dro yn rhinwedd y Rheoliadau hynny, a
(iii)sy’n aros yng Nghymru am ddim hwy nag sy’n angenrheidiol.
(3) O ran P—
(a)rhaid iddo deithio’n uniongyrchol i fangre yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, a
(b)ni chaiff adael y fangre na bod y tu allan iddi cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P—
(i)onid yw wedi ei awdurdodi gan reoliad 10(4) [F11(gadael y fangre dros dro)] i wneud hynny, neu
(ii)onid yw’r paragraff hwn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P yn rhinwedd rheoliad 10(3) (gadael Cymru).
(4) Rhaid i P hefyd—
(a)cyn cyrraedd Cymru, neu
(b)cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyrraedd Cymru,
hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig am gyfeiriad y fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion paragraff (3) gan ddefnyddio cyfleuster a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F8Gair yn rhl. 8(1)(b) wedi ei amnewid (10.12.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1477), rhlau. 1(2), 2(a)(iii)
F9Geiriau yn rhl. 8(1)(b) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(3) (ynghyd â rhl. 7)
F10Geiriau yn rhl. 8(2)(a)(i) wedi eu hamnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(d)(i) (ynghyd â rhl. 11)
F11Geiriau yn rhl. 8(3)(b)(i) wedi eu hamnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(d)(ii) (ynghyd â rhl. 11)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C2Rhl. 8(1) addaswyd (11.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/726), rhlau. 1(2), 3
Gwybodaeth Cychwyn
9.—[F12(1) At ddibenion y Rhan hon, ystyr “gwlad neu diriogaeth esempt” yw—
(a)gwlad neu diriogaeth o fewn yr ardal deithio gyffredin;
(b)gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3;
ac mae unrhyw gyfeiriad at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” i’w ddehongli yn unol â hynny.]
[F13(2)] Nid yw rheoliad 7 ac 8 yn gymwys i berson a ddisgrifir—
(a)ym mharagraff 1(1)(a) i (k) o Atodlen 2 sy’n bodloni’r amodau ym [F14mharagraff 1(2)] o’r Atodlen honno;
(b)ym mharagraffau 2 i [F15[F1639]] o Atodlen 2.
Diwygiadau Testunol
F12Rhl. 9(1) wedi ei fewnosod (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(4)(b) (ynghyd â rhl. 7)
F13Rhl. 9(2): rhl. 9 wedi ei ailrifo fel rhl. 9(2) (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(4)(a) (ynghyd â rhl. 7)
F14Geiriau yn rhl. 9(2)(a) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 9(2)
F15Gair yn rhl. 9(2) wedi ei amnewid (22.8.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886), rhlau. 1(2), 6
F16Gair yn rhl. 9(2)(b) wedi ei amnewid (28.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2020 (dirymwyd) (O.S. 2020/1362), rhlau. 1(2), 6(2)
Gwybodaeth Cychwyn
10.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gofyniad i ynysu yn ei gwneud yn ofynnol i berson (“P”) breswylio mewn mangre (a pheidio â gadael y fangre na bod y tu allan iddi) yng Nghymru.
(2) Ystyr “gofyniad i ynysu” mewn perthynas â P yw gofyniad a osodir gan—
(a)rheoliad 7(3);
(b)rheoliad 8(3)(b).
(3) Mae gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P os yw P yn gadael Cymru, onid yw P y tu allan [F17i Gymru dros dro at ddiben a awdurdodir gan baragraff (4)(b) i (k).]
(4) Caniateir i P adael y fangre a bod y tu allan iddi am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol—
(a)i deithio at ddibenion gadael Cymru yn y modd a ddisgrifir gan baragraff (3);
(b)i gael angenrheidiau sylfaenol (gan gynnwys ar gyfer personau eraill yn y fangre neu unrhyw anifeiliaid anwes yn y fangre), pan na fo’n bosibl neu’n ymarferol—
(i)i berson arall yn y fangre eu cael ar ran P, neu
(ii)eu cael drwy ddanfoniad i’r fangre gan drydydd parti;
(c)i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;
(d)i gael gwasanaeth iechyd a ddarperir gan ymarferydd meddygol cofrestredig, pan fo trefniadau wedi eu gwneud i ddarparu’r gwasanaeth cyn i P gyrraedd y Deyrnas Unedig;
(e)i gynorthwyo person sy’n derbyn gwasanaeth iechyd a ddisgrifir ym mharagraff (d), neu i fod gyda’r person hwnnw os yw P yn blentyn y mae gan y person hwnnw gyfrifoldeb amdano;
[F18(ea)pan fo P yn blentyn nad yw’n byw ar yr un aelwyd â rhieni P, neu ag un o rieni P, i barhau â threfniant sydd eisoes yn bodoli er mwyn cael mynediad at, a chyswllt rhwng, P a rhieni P, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i P, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros P, neu sy’n gofalu amdano;]
(f)i gael gafael ar wasanaethau milfeddygol—
(i)pan fo angen y gwasanaethau hynny ar fyrder ar gyfer anifail anwes yn y fangre, a
(ii)pan na fo’n bosibl i berson arall yn y fangre gael mynediad i’r gwasanaethau hynny;
(g)i wneud gweithgareddau penodedig mewn perthynas â garddwriaeth fwytadwy, ond dim ond os yw P yn preswylio yn y fangre mewn cysylltiad â’r gweithgareddau hynny;
(h)i osgoi salwch neu anaf neu i ddianc rhag risg o niwed;
(i)i fodloni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(j)i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol neu wasanaethau i ddioddefwyr)—
(i)pan fo cael gafael ar y gwasanaeth yn hanfodol i lesiant P, a
(ii)pan na ellir darparu’r gwasanaeth os yw P yn aros yn y fangre;
(ja)pan fo P yn cystadlu mewn digwyddiad chwaraeon a bennir yn Atodlen 4 neu’n darparu hyfforddiant neu gymorth arall i berson sy’n cystadlu mewn digwyddiad o’r fath, i gymryd rhan yn y digwyddiad neu i ymgymryd â hyfforddiant neu weithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad;
(jb)pan fo P yn gwasanaethu fel swyddog mewn digwyddiad chwaraeon o’r fath, neu’n ymwneud â’i gynnal, i fynd i’r digwyddiad neu i ymgymryd â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwasanaethu fel swyddog neu gynnal y digwyddiad;
(jc)pan fo P, yng nghwrs ei waith, yn ymwneud â darlledu digwyddiad chwaraeon o’r fath, i fynd i’r digwyddiad at ddiben y darllediad neu i ymgymryd â gweithgareddau paratoi sy’n gysylltiedig â darlledu’r digwyddiad;
(jd)pan fo P, yng nghwrs ei waith, yn ymwneud â gweithgarwch newyddiadurol mewn digwyddiad chwaraeon o’r fath, i fynd i’r digwyddiad at ddiben ymgymryd â’r gweithgarwch hwnnw;
F19(je). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F19(jf). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F19(jg). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
[F20(jh)pan fo P yn athletwr elît sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i gael un neu ragor o archwiliadau meddygol, i fynd i’r archwiliad hwnnw, ar yr amod—
(i)bod yr archwiliad meddygol at ddiben busnes sy’n penderfynu pa un ai i gynnig contract i P i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît ar ran y busnes hwnnw,
(ii)bod gan P gadarnhad ysgrifenedig yn ei feddiant oddi wrth y busnes hwnnw o’r trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (i), a
(iii)bod y trefniadau hynny wedi eu gwneud cyn i P gyrraedd y Deyrnas Unedig;
(ji)pan fo P yn berson sy’n teithio gydag athletwr elît at ddiben is-baragraff (jh), i ddarparu cynorthwy a chymorth i’r athletwr elît hwnnw mewn cysylltiad ag archwiliad meddygol o’r fath;
(jj)pan fo P yn athletwr elît sydd wedi contractio â busnes i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît, i gymryd rhan mewn cystadleuaeth o’r fath neu ymgymryd â hyfforddiant neu weithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth elît honno;]
(k)am resymau tosturiol, gan gynnwys i fynd i angladd—
(i)aelod o deulu P;
(ii)ffrind agos.
(5) O ran P—
(a)pan fo rhwymedigaeth gyfreithiol yn ei gwneud yn ofynnol i P newid y fangre y mae’n preswylio ynddi at ddiben gofyniad i ynysu, neu
(b)pan na fo P fel arall yn gallu aros yn y fangre y mae P yn preswylio ynddi at ddiben gofyniad i ynysu,
caiff P deithio’n uniongyrchol i fangre arall yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P; ac mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at fangre, mewn perthynas â gofyniad i ynysu, i’w darllen yn unol â hynny.
(6) Pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid i P hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig am gyfeiriad y fangre arall cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol gan ddefnyddio cyfleuster a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.
(7) Nid yw gofyniad i ynysu yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan fo P—
(a)wedi ei symud ymaith i le, wedi ei gyfarwyddo i fynd i le neu wedi ei gyfarwyddo i aros mewn lle gan swyddog mewnfudo, cwnstabl neu swyddog iechyd y cyhoedd o dan Atodlen 21 i Ddeddf y Coronafeirws 2020(1);
(b)wedi ei gadw mewn lle yn rhinwedd gofyniad a osodir o dan y Deddfau Mewnfudo.
(8) At ddibenion y rheoliad hwn—
[F21mae i “athletwr elît” (“elite athlete”) yr un ystyr ag ym mharagraff 38(2)(a) o Atodlen 2]
[F21mae i “cystadleuaeth elît” (“elite competition”) yr un ystyr ag ym mharagraff 38(2)(b) o Atodlen 2]
[F22(a)] ystyr “garddwriaeth fwytadwy” (“edible horticulture”) yw tyfu—
llysiau wedi eu diogelu a dyfir mewn systemau tai gwydr,
llysiau maes a dyfir yn yr awyr agored, gan gynnwys llysiau, perlysiau, salad deiliog a thatws,
ffrwythau meddal a dyfir yn yr awyr agored neu o dan orchudd,
coed sy’n dwyn ffrwyth,
gwinwydd a choesynnau, neu
madarch;
ystyr “gwasanaeth iechyd” (“health service”) yw gwasanaeth a ddarperir ar gyfer y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—
atal salwch, gwneud diagnosis o salwch neu ei drin, neu
hybu neu warchod iechyd y cyhoedd;
ystyr “ymarferydd meddygol cofrestredig” (“registered medical practitioner”) yw person sydd wedi ei gofrestri’n llawn o fewn yr ystyr a roddir i “fully registered” yn Neddf Meddygol 1983(2) sydd yn dal trwydded i ymarfer o dan y Ddeddf honno;
ystyr “gweithgareddau penodedig” (“specified activities”), mewn perthynas â garddwriaeth fwytadwy, yw—
cynnal a chadw cnydau,
cynaeafu cnydau,
codi twneli a’u datgymalu,
gosod dulliau dyfrhau a’u cynnal,
hwsmonaeth cnydau,
pacio a phrosesu cnydau ar fangreoedd cyflogwyr,
paratoi mannau a chyfryngau tyfu a’u datgymalu,
gwaith cynhyrchu sylfaenol cyffredinol mewn garddwriaeth fwytadwy,
gweithgareddau sy’n ymwneud â goruchwylio timau o weithwyr garddwriaeth.
F23(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F23(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F23(d). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F23(e). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F17Geiriau yn rhl. 10(3) wedi eu hamnewid (C.) (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 5(1)(a)(i) (ynghyd â rhl. 7)
F18Rhl. 10(4)(ea) wedi ei fewnosod (10.12.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1477), rhlau. 1(2), 2(b)
F19Rhl. 10(4)(je)-(jg) wedi ei hepgor (22.8.2020 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886), rhlau. 1(2), 7(2)
F20Rhl. 10(4)(jh)-(jj) wedi eu mewnosod (26.9.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 (O.S. 2020/1042), rhlau. 1(2), 4(2)
F21Geiriau yn rhl. 10(8) wedi eu mewnosod (26.9.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 (O.S. 2020/1042), rhlau. 1(2), 4(3)
F22Geiriau yn rhl. 10(8)(a) in rhl. 10(8) wedi ei ailrifo fel rhl. 10(8)(a) (C.) (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 5(1)(c)(i) (ynghyd â rhl. 7)
F23Rhl. 10(8)(b)-(e) wedi ei hepgor (22.8.2020 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886), rhlau. 1(2), 7(3)
Gwybodaeth Cychwyn
11. Pan osodir gofyniad ar blentyn o dan reoliad 7, 8 neu 10, rhaid i berson sydd â chyfrifoldeb am y plentyn gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad.
12. At ddibenion rheoliadau 7, 8 a 10, diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o [F2410 niwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod ar ôl] y diwrnod [F25yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf].
Diwygiadau Testunol
F24Geiriau yn rhl. 12 wedi eu hamnewid (10.12.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1477), rhlau. 1(2), 2(c) (ynghyd â rhl. 3)
F25Geiriau yn rhl. 12 wedi eu hamnewid (C.) (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(5) (ynghyd â rhl. 7)
Gwybodaeth Cychwyn
F2612A. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F26Rhl. 12A wedi ei hepgor (28.11.2020 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2020 (dirymwyd) (O.S. 2020/1362), rhlau. 1(2), 6(3) (ynghyd â rhl. 7)
1983 p. 54. Gweler adran 55(1). Diwgiwyd y diffiniad o “fully registered person” gan O.S. 2006/1914, O.S. 2007/3101 a O.S. 2008/1774