Rhan 4LL+CGorfodi a Throseddau
Gorfodi gofyniad i ynysuLL+C
13.—(1) Pan fo gan gwnstabl sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri rheoliad 7(3) neu 8(3)(b), caiff y cwnstabl—
(a)cyfarwyddo P i ddychwelyd i’r fangre y mae P yn preswylio ynddi,
(b)symud P ymaith i’r fangre, neu
(c)pan na fo’n ymarferol neu’n briodol cymryd y cam yn is-baragraff (a) neu (b) o dan yr amgylchiadau, symud P ymaith i fangre wedi’i threfnu gan Weinidogion Cymru sy’n addas i P breswylio ynddi at ddibenion rheoliad 7(3) neu 8(3)(b).
(2) Caiff cwnstabl sy’n arfer y pŵer ym mharagraff (1)(b) neu (c) ddefnyddio grym rhesymol, os yw hynny’n angenrheidiol, wrth arfer y pŵer.
(3) Pan fo P yn blentyn yng nghwmni person sydd â chyfrifoldeb am y plentyn—
(a)caiff y cwnstabl gyfarwyddo’r person â’r cyfrifoldeb hwnnw i fynd â’r plentyn i’r fangre y mae’r plentyn yn preswylio ynddi, a
(b)rhaid i’r person, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y cwnstabl i’r plentyn.
(4) Caiff cwnstabl gymryd unrhyw gamau eraill y mae’r cwnstabl yn ystyried eu bod yn angenrheidiol ac yn gymesur i hwyluso arfer pŵer a roddir i’r cwnstabl gan y rheoliad hwn.
(5) Ni chaiff cwnstabl arfer pŵer a roddir i’r cwnstabl gan y rheoliad hwn oni fo’r cwnstabl yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.
TroseddauLL+C
14.—(1) Mae oedolyn sy’n torri gofyniad yn rheoliad —
(a)4(1) neu (4),
(b)5(2),
(c)7(2), (3) neu (5),
(d)8(3) neu (4),
(e)10(6), neu
(f)11
yn cyflawni trosedd.
(2) Mae’n drosedd i oedolyn ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i’r Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion rheoliad 4, 5, 7(5), 8(4) neu 10(6)—
(a)pan fo’r person yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu
(b)pan fo’r person yn ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol.
(3) Mae oedolyn sy’n methu cydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan gwnstabl o dan reoliad 13 yn cyflawni trosedd.
(4) Mae oedolyn sy’n rhwystro yn fwriadol unrhyw berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y [F1Rheoliadau hyn] yn cyflawni trosedd.
(5) Mae’n amddiffyniad i gyhuddiad o gyflawni trosedd o dan baragraff (1) neu (3) i ddangos bod gan y person esgus rhesymol dros dorri’r gofyniad neu fethu â chydymffurfio â’r gofyniad o dan sylw.
(6) Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan y rheoliad hwn yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.
(7) Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(1) yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y rheoliad hwn fel pe bai’r rhesymau yn is-adran (5) o’r adran honno yn cynnwys—
(a)cynnal iechyd y cyhoedd;
(b)cynnal trefn gyhoeddus.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 14(4) wedi eu hamnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(e) (ynghyd â rhl. 11)
Gwybodaeth Cychwyn
ErlynLL+C
15. Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ond gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru.
Hysbysiadau cosb benodedigLL+C
16.—(1) Caiff swyddog mewnfudo ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw oedolyn y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd—
(a)o dan reoliad 14(1) neu (2)—
(i)mewn perthynas â gofyniad yn rheoliad 4(1) neu (4), 5(2), neu 7(5), neu
(ii)mewn perthynas â thorri gofyniad yn rheoliad 11 sy’n ymwneud â’r gofyniad yn rheoliad 7(5), neu
(b)o dan reoliad 14(4) lle credir bod y person yn fwriadol wedi rhwystro person oedd yn arfer swyddogaeth mewn perthynas ag un o’r gofynion hynny.
(2) Caiff cwnstabl ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw oedolyn y mae’r cwnstabl yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y [F2Rheoliadau] hyn.
(3) Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—
(a)Gweinidogion Cymru, neu
(b)person a ddynodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.
(4) Pan ddyroddir hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—
(a)ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;
(b)ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(5) Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—
(a)disgrifio’r amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd,
(b)datgan y cyfnod pan (oherwydd paragraff (4)(a)) na ddygir achos am y drosedd,
(c)pennu swm y gosb benodedig,
(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo, ac
(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.
(6) Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd—
(a)o dorri gofyniad a osodir gan reoliad 7(2), neu (3), 8(3) neu 11,
(b)o dan reoliad 14(3), neu
(c)o dan reoliad 14(4) lle credir bod y person yn fwriadol wedi rhwystro person oedd yn arfer swyddogaeth mewn perthynas â rheoliad 7(2) neu (3), 8(3) neu 11,
rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod yn £1000.
(7) Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd (“trosedd gwybodaeth neu hysbysu”) —
(a)o dorri gofyniad a osodir gan reoliad 4(1) neu (4), 5(2), 7(5), 8(4) neu 10(6), neu
(b)o dan reoliad 14(4) lle credir bod y person yn fwriadol wedi rhwystro person oedd yn arfer swyddogaethau mewn perthynas ag un o’r gofynion hynny,
rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod yn £60 (yn ddarostyngedig i baragraffau (8) a (9)).
(8) Caiff hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â throsedd gwybodaeth neu hysbysu bennu, os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad y dyroddir yr hysbysiad, mai dyna yw swm y gosb benodedig.
(9) Ond os yw’r person y dyroddir iddo hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd gwybodaeth neu hysbysu eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â’r drosedd honno—
(a)nid yw paragraff (8) yn gymwys, a
(b)y swm a bennir fel y gosb benodedig fydd—
(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a geir, £120;
(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a geir, £240;
(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a geir, £480;
(iv)yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig a geir, £960;
(v)yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, £1920.
(10) Pa bynnag ddull arall a bennir o dan baragraff (5)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy ragdalu a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y nodir ei enw o dan baragraff (5)(d) i’r cyfeiriad a nodir.
(11) Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel a grybwyllir ym mharagraff (10), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.
(12) Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—
(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran—
(i)Gweinidogion Cymru, neu
(ii)person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (3)(b), a
(b)sy’n datgan bod y taliad am y gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,
yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.
Diwygiadau Testunol
F2Gair yn rhl. 16(2) wedi ei amnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(f) (ynghyd â rhl. 11)
Gwybodaeth Cychwyn
1984 p. 60. Amnewidiwyd adran 24 gan adran 110(1) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15).