- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
17.—(1) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 18, ystyr “gwybodaeth berthnasol” yw—
(a)gwybodaeth am deithiwr o Gymru;
(b)gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)ystyr “gwybodaeth am deithiwr o Gymru” yw—
(i)gwybodaeth am deithiwr a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol at ddiben rheoliad 4 neu 5;
(ii)gwybodaeth a ddarparwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol mewn hysbysiad a wnaed o dan reoliad 7(5)(b), 8(4) neu 10(6);
(b)ystyr “gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig” yw gwybodaeth a roddir i berson o dan ddarpariaeth mewn Rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (yn ôl y digwydd) sy’n cyfateb i ddarpariaeth a grybwyllir yn is-baragraff (a).
(3) Yn y rheoliad hwn, mae unrhyw gyfeiriad at ddeiliad gwybodaeth yn gyfeiriad at—
(a)yr Ysgrifennydd Gwladol;
(b)person y datgelwyd yr wybodaeth iddo o dan baragraff (4) neu (5).
(4) Caiff deiliad gwybodaeth am deithiwr o Gymru ddatgelu’r wybodaeth i berson arall (y “derbynnydd”) o dan amgylchiadau pan fo’n angenrheidiol i’r derbynnydd gael yr wybodaeth—
(a)at ddiben arfer swyddogaeth y derbynnydd o dan —
(i)y Rheoliadau hyn, neu
(ii)Rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (yn ôl y digwydd) sy’n cyfateb â’r Rheoliadau yma;
(b)at ddiben—
(i)atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws,
(ii)monitro lledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws, neu
(iii)rhoi effaith i unrhyw drefniant neu gytundeb rhyngwladol sy’n ymwneud â lledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws;
(c)at ddiben sy’n gysylltiedig â’r diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu (b), neu sydd fel arall yn gysylltiedig â‘r diben hwnnw
(5) Caiff deiliad gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig ei ddatgelu i berson arall (“y derbynnydd”) mewn amgylchiadau lle ei bod hi’n angenrheidiol i’r derbynnydd gael y wybodaeth—
(a)at ddiben arfer swyddogaeth y derbynnydd o dan y Rheoliadau yma;
(b)at ddiben—
(i)atal perygl i iechyd y cyhoedd yng Nghymru o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws,
(ii)monitro lledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws yng Nghymru, neu
(iii)rhoi effaith yng Nghymru i unrhyw drefniant neu gytundeb rhyngwladol sy’n ymwneud â lledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws;
(c)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu (b) neu ddiben sydd fel arall yn gysylltiedig â’r diben hwnnw.
(6) Ni all deiliad gwybodaeth berthnasol ddefnyddio’r wybodaeth ac eithrio—
(a)at ddiben arfer swyddogaeth y deiliad o dan y Rheoliadau hyn;
(b)yn achos gwybodaeth am deithiwr o Gymru, at ddiben a ddisgrifir ym mharagraff (4)(b);
(c)yn achos gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig, at ddiben a ddisgrifir ym mharagraff (5)(b);
(d)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a), (b) neu (c), neu ddiben sydd fel arall yn gysylltiedig â’r diben hwnnw.
(7) Er gwaethaf paragraffau (4), (5) a (6), nid yw’r rheoliad hwn yn cyfyngu’r amgylchiadau lle y gellir fel arall ddatgelu’r wybodaeth yn gyfreithiol, neu lle y gellir defnyddio’r wybodaeth o dan unrhyw ddeddfiad arall neu reol gyfreithiol arall.
(8) Nid yw datgeliad a awdurdodir gan y rheoliad hwn yn torri—
(a)rhwymedigaeth o safbwynt cyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, neu
(b)unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (ym mha fodd bynnag y’i gorfodir).
(9) Nid oes unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn awdurdodi datgelu data personol pan fo gwneud hynny yn torri’r ddeddfwriaeth diogelu data.
(10) Ym mharagraff (8), mae i “ddeddfwriaeth diogelu data” yr ystyr a roddir i “data protection legislation” ac mae i “data personol” yr ystyr a roddir i “personal data” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018(1).
18.—(1) Caniateir i wybodaeth berthnasol gael ei defnyddio fel tystiolaeth yn erbyn y person y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef mewn achos troseddol.
(2) Pan ddefnyddir yr wybodaeth mewn achos ac eithrio ar gyfer trosedd o dan y Rheoliadau hyn neu adran 5 o Ddeddf Anudon 1911(2) (datganiadau anwir a wneir ac eithrio ar lw)—
(a)ni chaniateir i unrhyw dystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei rhoi gan yr erlyniad nac ar ei ran, a
(b)ni chaniateir i unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei ofyn gan yr erlyniad nac ar ei ran.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys—
(a)os rhoddir tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person a’i darparodd, neu ar ei ran, yn ystod yr achos, neu
(b)os gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person hwnnw, neu ar ei ran, yn ystod yr achos.
1911 p. 6. Diwygiwyd adran 5 gan adran 1(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1948 (p. 58).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: