RHAN 6Adolygu a dod i ben
Adolygu’r gofynion19.
Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn, ac a yw’r gofynion hynny’n gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt—
(a)
erbyn 29 Mehefin 2020,
F1(b)
erbyn 27 Gorffennaf 2020;
(c)
o leiaf unwaith yn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â 28 Gorffennaf 2020;
(d)
o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 28 o ddiwrnodau.
Y Rheoliadau’n dod i ben20.
(1)
Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y deuant i rym.
(2)
Nid yw’r ffaith bod y Rheoliadau hyn wedi dod i ben yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.