Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

Gofynion ynysu: eithriadauLL+C

10.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gofyniad i ynysu yn ei gwneud yn ofynnol i berson (“P”) breswylio mewn mangre (a pheidio â gadael y fangre na bod y tu allan iddi) yng Nghymru.

(2Ystyr “gofyniad i ynysu” mewn perthynas â P yw gofyniad a osodir gan—

(a)rheoliad 7(3);

(b)rheoliad 8(3)(b).

(3Mae gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P os yw P yn gadael Cymru, onid yw P y tu allan [F1i Gymru dros dro at ddiben a awdurdodir gan baragraff (4)(b) i (k).]

(4Caniateir i P adael y fangre a bod y tu allan iddi am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol—

(a)i deithio at ddibenion gadael Cymru yn y modd a ddisgrifir gan baragraff (3);

(b)i gael angenrheidiau sylfaenol (gan gynnwys ar gyfer personau eraill yn y fangre neu unrhyw anifeiliaid anwes yn y fangre), pan na fo’n bosibl neu’n ymarferol—

(i)i berson arall yn y fangre eu cael ar ran P, neu

(ii)eu cael drwy ddanfoniad i’r fangre gan drydydd parti;

(c)i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;

(d)i gael gwasanaeth iechyd a ddarperir gan ymarferydd meddygol cofrestredig, pan fo trefniadau wedi eu gwneud i ddarparu’r gwasanaeth cyn i P gyrraedd y Deyrnas Unedig;

(e)i gynorthwyo person sy’n derbyn gwasanaeth iechyd a ddisgrifir ym mharagraff (d), neu i fod gyda’r person hwnnw os yw P yn blentyn y mae gan y person hwnnw gyfrifoldeb amdano;

(f)i gael gafael ar wasanaethau milfeddygol—

(i)pan fo angen y gwasanaethau hynny ar fyrder ar gyfer anifail anwes yn y fangre, a

(ii)pan na fo’n bosibl i berson arall yn y fangre gael mynediad i’r gwasanaethau hynny;

(g)i wneud gweithgareddau penodedig mewn perthynas â garddwriaeth fwytadwy, ond dim ond os yw P yn preswylio yn y fangre mewn cysylltiad â’r gweithgareddau hynny;

(h)i osgoi salwch neu anaf neu i ddianc rhag risg o niwed;

(i)i fodloni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(j)i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol neu wasanaethau i ddioddefwyr)—

(i)pan fo cael gafael ar y gwasanaeth yn hanfodol i lesiant P, a

(ii)pan na ellir darparu’r gwasanaeth os yw P yn aros yn y fangre;

[F2(ja)pan fo P yn cystadlu mewn digwyddiad chwaraeon a bennir yn Atodlen 4 neu’n darparu hyfforddiant neu gymorth arall i berson sy’n cystadlu mewn digwyddiad o’r fath, i gymryd rhan yn y digwyddiad neu i ymgymryd â hyfforddiant neu weithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad;

(jb)pan fo P yn gwasanaethu fel swyddog mewn digwyddiad chwaraeon o’r fath, neu’n ymwneud â’i gynnal, i fynd i’r digwyddiad neu i ymgymryd â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwasanaethu fel swyddog neu gynnal y digwyddiad;

(jc)pan fo P, yng nghwrs ei waith, yn ymwneud â darlledu digwyddiad chwaraeon o’r fath, i fynd i’r digwyddiad at ddiben y darllediad neu i ymgymryd â gweithgareddau paratoi sy’n gysylltiedig â darlledu’r digwyddiad;

(jd)pan fo P, yng nghwrs ei waith, yn ymwneud â gweithgarwch newyddiadurol mewn digwyddiad chwaraeon o’r fath, i fynd i’r digwyddiad at ddiben ymgymryd â’r gweithgarwch hwnnw;

(je)pan fo P yn athletwr elît sy’n preswylio yng Nghymru ac yn dychwelyd o gystadleuaeth elît dramor, i hyfforddi neu gystadlu;

(jf)pan fo P yn darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît sy’n preswylio yng Nghymru a bod P yn dychwelyd o gystadleuaeth elît dramor pan oedd P yn darparu hyfforddiant neu gymorth arall o’r fath i athletwr, i ddarparu’r hyfforddiant neu’r cymorth arall hwnnw;

(jg)pan fo P yn dychwelyd o gystadleuaeth elît dramor yr oedd P yn gwasanaethu fel swyddog ynddi, neu’n ymwneud â’i chynnal, i wasanaethu fel swyddog mewn cystadleuaeth elît ddomestig neu i ymwneud â’i chynnal;]

(k)am resymau tosturiol, gan gynnwys i fynd i angladd—

(i)aelod o deulu P;

(ii)ffrind agos.

(5O ran P—

(a)pan fo rhwymedigaeth gyfreithiol yn ei gwneud yn ofynnol i P newid y fangre y mae’n preswylio ynddi at ddiben gofyniad i ynysu, neu

(b)pan na fo P fel arall yn gallu aros yn y fangre y mae P yn preswylio ynddi at ddiben gofyniad i ynysu,

caiff P deithio’n uniongyrchol i fangre arall yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P; ac mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at fangre, mewn perthynas â gofyniad i ynysu, i’w darllen yn unol â hynny.

(6Pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid i P hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig am gyfeiriad y fangre arall cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol gan ddefnyddio cyfleuster a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.

(7Nid yw gofyniad i ynysu yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan fo P—

(a)wedi ei symud ymaith i le, wedi ei gyfarwyddo i fynd i le neu wedi ei gyfarwyddo i aros mewn lle gan swyddog mewnfudo, cwnstabl neu swyddog iechyd y cyhoedd o dan Atodlen 21 i Ddeddf y Coronafeirws 2020(1);

(b)wedi ei gadw mewn lle yn rhinwedd gofyniad a osodir o dan y Deddfau Mewnfudo.

(8At ddibenion y rheoliad hwn—

[F3(a)] ystyr “garddwriaeth fwytadwy” (“edible horticulture) yw tyfu—

(i)

llysiau wedi eu diogelu a dyfir mewn systemau tai gwydr,

(ii)

llysiau maes a dyfir yn yr awyr agored, gan gynnwys llysiau, perlysiau, salad deiliog a thatws,

(iii)

ffrwythau meddal a dyfir yn yr awyr agored neu o dan orchudd,

(iv)

coed sy’n dwyn ffrwyth,

(v)

gwinwydd a choesynnau, neu

(vi)

madarch;

ystyr “gwasanaeth iechyd” (“health service”) yw gwasanaeth a ddarperir ar gyfer y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—

(i)

atal salwch, gwneud diagnosis o salwch neu ei drin, neu

(ii)

hybu neu warchod iechyd y cyhoedd;

ystyr “ymarferydd meddygol cofrestredig” (“registered medical practitioner”) yw person sydd wedi ei gofrestri’n llawn o fewn yr ystyr a roddir i “fully registered” yn Neddf Meddygol 1983(2) sydd yn dal trwydded i ymarfer o dan y Ddeddf honno;

ystyr “gweithgareddau penodedig” (“specified activities”), mewn perthynas â garddwriaeth fwytadwy, yw—

(i)

cynnal a chadw cnydau,

(ii)

cynaeafu cnydau,

(iii)

codi twneli a’u datgymalu,

(iv)

gosod dulliau dyfrhau a’u cynnal,

(v)

hwsmonaeth cnydau,

(vi)

pacio a phrosesu cnydau ar fangreoedd cyflogwyr,

(vii)

paratoi mannau a chyfryngau tyfu a’u datgymalu,

(viii)

gwaith cynhyrchu sylfaenol cyffredinol mewn garddwriaeth fwytadwy,

(ix)

gweithgareddau sy’n ymwneud â goruchwylio timau o weithwyr garddwriaeth.

[F4(b)ystyr “cystadleuaeth elît ddomestig” yw cystadleuaeth elît sy’n cael ei chynnal yn y Deyrnas Unedig;

(c)ystyr “cystadleuaeth elît” yw cystadleuaeth chwaraeon lle y mae unrhyw un neu ragor o’r cyfranogwyr yn cystadlu—

(i)i ennill bywoliaeth, neu

(ii)i gymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad, neu fel rhan o broses ddethol ar gyfer hynny;

(d)ystyr “cystadleuaeth elît dramor” yw cystadleuaeth elît sy’n cael ei chynnal y tu allan i’r Deyrnas Unedig; ac mae P i’w drin fel pe bai’n dychwelyd o’r gystadleuaeth honno os yw P, o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â diwrnod ynysu olaf P, wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt at ddibenion y gystadleuaeth honno;

(e)ystyr “athletwr elît sy’n preswylio yng Nghymru” yw person sy’n preswylio yng Nghymru fel arfer ac—

(i)yn ennill bywoliaeth o gystadlu mewn camp, neu

(ii)yn athletwr elît o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 1 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020.]

(2)

1983 p. 54. Gweler adran 55(1). Diwgiwyd y diffiniad o “fully registered person” gan O.S. 2006/1914, O.S. 2007/3101 a O.S. 2008/1774