Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 18/01/2021
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 10/12/2020. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth.
Rydych yn edrych ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth fel yr oedd ar bwynt penodol mewn amser. Mae fersiwn ddiweddarach o hyn neu ddarpariaeth, gan gynnwys newidiadau ac effeithiau dilynol, yn disodli'r fersiwn hon.
Sylwer bod y term darpariaeth yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – fel Rhan, Pennod neu adran.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
10.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gofyniad i ynysu yn ei gwneud yn ofynnol i berson (“P”) breswylio mewn mangre (a pheidio â gadael y fangre na bod y tu allan iddi) yng Nghymru.
(2) Ystyr “gofyniad i ynysu” mewn perthynas â P yw gofyniad a osodir gan—
(a)rheoliad 7(3);
(b)rheoliad 8(3)(b).
(3) Mae gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P os yw P yn gadael Cymru, onid yw P y tu allan [F1i Gymru dros dro at ddiben a awdurdodir gan baragraff (4)(b) i (k).]
(4) Caniateir i P adael y fangre a bod y tu allan iddi am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol—
(a)i deithio at ddibenion gadael Cymru yn y modd a ddisgrifir gan baragraff (3);
(b)i gael angenrheidiau sylfaenol (gan gynnwys ar gyfer personau eraill yn y fangre neu unrhyw anifeiliaid anwes yn y fangre), pan na fo’n bosibl neu’n ymarferol—
(i)i berson arall yn y fangre eu cael ar ran P, neu
(ii)eu cael drwy ddanfoniad i’r fangre gan drydydd parti;
(c)i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;
(d)i gael gwasanaeth iechyd a ddarperir gan ymarferydd meddygol cofrestredig, pan fo trefniadau wedi eu gwneud i ddarparu’r gwasanaeth cyn i P gyrraedd y Deyrnas Unedig;
(e)i gynorthwyo person sy’n derbyn gwasanaeth iechyd a ddisgrifir ym mharagraff (d), neu i fod gyda’r person hwnnw os yw P yn blentyn y mae gan y person hwnnw gyfrifoldeb amdano;
[F2(ea)pan fo P yn blentyn nad yw’n byw ar yr un aelwyd â rhieni P, neu ag un o rieni P, i barhau â threfniant sydd eisoes yn bodoli er mwyn cael mynediad at, a chyswllt rhwng, P a rhieni P, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i P, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros P, neu sy’n gofalu amdano;]
(f)i gael gafael ar wasanaethau milfeddygol—
(i)pan fo angen y gwasanaethau hynny ar fyrder ar gyfer anifail anwes yn y fangre, a
(ii)pan na fo’n bosibl i berson arall yn y fangre gael mynediad i’r gwasanaethau hynny;
(g)i wneud gweithgareddau penodedig mewn perthynas â garddwriaeth fwytadwy, ond dim ond os yw P yn preswylio yn y fangre mewn cysylltiad â’r gweithgareddau hynny;
(h)i osgoi salwch neu anaf neu i ddianc rhag risg o niwed;
(i)i fodloni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(j)i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol neu wasanaethau i ddioddefwyr)—
(i)pan fo cael gafael ar y gwasanaeth yn hanfodol i lesiant P, a
(ii)pan na ellir darparu’r gwasanaeth os yw P yn aros yn y fangre;
(ja)pan fo P yn cystadlu mewn digwyddiad chwaraeon a bennir yn Atodlen 4 neu’n darparu hyfforddiant neu gymorth arall i berson sy’n cystadlu mewn digwyddiad o’r fath, i gymryd rhan yn y digwyddiad neu i ymgymryd â hyfforddiant neu weithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad;
(jb)pan fo P yn gwasanaethu fel swyddog mewn digwyddiad chwaraeon o’r fath, neu’n ymwneud â’i gynnal, i fynd i’r digwyddiad neu i ymgymryd â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwasanaethu fel swyddog neu gynnal y digwyddiad;
(jc)pan fo P, yng nghwrs ei waith, yn ymwneud â darlledu digwyddiad chwaraeon o’r fath, i fynd i’r digwyddiad at ddiben y darllediad neu i ymgymryd â gweithgareddau paratoi sy’n gysylltiedig â darlledu’r digwyddiad;
(jd)pan fo P, yng nghwrs ei waith, yn ymwneud â gweithgarwch newyddiadurol mewn digwyddiad chwaraeon o’r fath, i fynd i’r digwyddiad at ddiben ymgymryd â’r gweithgarwch hwnnw;
F3(je). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F3(jf). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F3(jg). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
[F4(jh)pan fo P yn athletwr elît sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i gael un neu ragor o archwiliadau meddygol, i fynd i’r archwiliad hwnnw, ar yr amod—
(i)bod yr archwiliad meddygol at ddiben busnes sy’n penderfynu pa un ai i gynnig contract i P i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît ar ran y busnes hwnnw,
(ii)bod gan P gadarnhad ysgrifenedig yn ei feddiant oddi wrth y busnes hwnnw o’r trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (i), a
(iii)bod y trefniadau hynny wedi eu gwneud cyn i P gyrraedd y Deyrnas Unedig;
(ji)pan fo P yn berson sy’n teithio gydag athletwr elît at ddiben is-baragraff (jh), i ddarparu cynorthwy a chymorth i’r athletwr elît hwnnw mewn cysylltiad ag archwiliad meddygol o’r fath;
(jj)pan fo P yn athletwr elît sydd wedi contractio â busnes i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît, i gymryd rhan mewn cystadleuaeth o’r fath neu ymgymryd â hyfforddiant neu weithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth elît honno;]
(k)am resymau tosturiol, gan gynnwys i fynd i angladd—
(i)aelod o deulu P;
(ii)ffrind agos.
(5) O ran P—
(a)pan fo rhwymedigaeth gyfreithiol yn ei gwneud yn ofynnol i P newid y fangre y mae’n preswylio ynddi at ddiben gofyniad i ynysu, neu
(b)pan na fo P fel arall yn gallu aros yn y fangre y mae P yn preswylio ynddi at ddiben gofyniad i ynysu,
caiff P deithio’n uniongyrchol i fangre arall yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P; ac mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at fangre, mewn perthynas â gofyniad i ynysu, i’w darllen yn unol â hynny.
(6) Pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid i P hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig am gyfeiriad y fangre arall cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol gan ddefnyddio cyfleuster a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.
(7) Nid yw gofyniad i ynysu yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan fo P—
(a)wedi ei symud ymaith i le, wedi ei gyfarwyddo i fynd i le neu wedi ei gyfarwyddo i aros mewn lle gan swyddog mewnfudo, cwnstabl neu swyddog iechyd y cyhoedd o dan Atodlen 21 i Ddeddf y Coronafeirws 2020(1);
(b)wedi ei gadw mewn lle yn rhinwedd gofyniad a osodir o dan y Deddfau Mewnfudo.
(8) At ddibenion y rheoliad hwn—
[F5mae i “athletwr elît” (“elite athlete”) yr un ystyr ag ym mharagraff 38(2)(a) o Atodlen 2]
[F5mae i “cystadleuaeth elît” (“elite competition”) yr un ystyr ag ym mharagraff 38(2)(b) o Atodlen 2]
[F6(a)] ystyr “garddwriaeth fwytadwy” (“edible horticulture”) yw tyfu—
llysiau wedi eu diogelu a dyfir mewn systemau tai gwydr,
llysiau maes a dyfir yn yr awyr agored, gan gynnwys llysiau, perlysiau, salad deiliog a thatws,
ffrwythau meddal a dyfir yn yr awyr agored neu o dan orchudd,
coed sy’n dwyn ffrwyth,
gwinwydd a choesynnau, neu
madarch;
ystyr “gwasanaeth iechyd” (“health service”) yw gwasanaeth a ddarperir ar gyfer y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—
atal salwch, gwneud diagnosis o salwch neu ei drin, neu
hybu neu warchod iechyd y cyhoedd;
ystyr “ymarferydd meddygol cofrestredig” (“registered medical practitioner”) yw person sydd wedi ei gofrestri’n llawn o fewn yr ystyr a roddir i “fully registered” yn Neddf Meddygol 1983(2) sydd yn dal trwydded i ymarfer o dan y Ddeddf honno;
ystyr “gweithgareddau penodedig” (“specified activities”), mewn perthynas â garddwriaeth fwytadwy, yw—
cynnal a chadw cnydau,
cynaeafu cnydau,
codi twneli a’u datgymalu,
gosod dulliau dyfrhau a’u cynnal,
hwsmonaeth cnydau,
pacio a phrosesu cnydau ar fangreoedd cyflogwyr,
paratoi mannau a chyfryngau tyfu a’u datgymalu,
gwaith cynhyrchu sylfaenol cyffredinol mewn garddwriaeth fwytadwy,
gweithgareddau sy’n ymwneud â goruchwylio timau o weithwyr garddwriaeth.
F7(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F7(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F7(d). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F7(e). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 10(3) wedi eu hamnewid (C.) (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 5(1)(a)(i) (ynghyd â rhl. 7)
F2Rhl. 10(4)(ea) wedi ei fewnosod (10.12.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1477), rhlau. 1(2), 2(b)
F3Rhl. 10(4)(je)-(jg) wedi ei hepgor (22.8.2020 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886), rhlau. 1(2), 7(2)
F4Rhl. 10(4)(jh)-(jj) wedi eu mewnosod (26.9.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 (O.S. 2020/1042), rhlau. 1(2), 4(2)
F5Geiriau yn rhl. 10(8) wedi eu mewnosod (26.9.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 (O.S. 2020/1042), rhlau. 1(2), 4(3)
F6Geiriau yn rhl. 10(8)(a) in rhl. 10(8) wedi ei ailrifo fel rhl. 10(8)(a) (C.) (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 5(1)(c)(i) (ynghyd â rhl. 7)
F7Rhl. 10(8)(b)-(e) wedi ei hepgor (22.8.2020 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886), rhlau. 1(2), 7(3)
Gwybodaeth Cychwyn
1983 p. 54. Gweler adran 55(1). Diwgiwyd y diffiniad o “fully registered person” gan O.S. 2006/1914, O.S. 2007/3101 a O.S. 2008/1774
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: