F1RHAN 3ATeithio o Ddenmarc

Gwahardd awyrennau a llestrau rhag teithio’n uniongyrchol o Ddenmarc12B.

(1)

Ni chaiff person sy’n rheoli neu’n gyfrifol am reolaeth awyren neu lestr yr oedd ei man ymadael diwethaf yn Nenmarc beri na chaniatáu iddi gyrraedd Cymru, oni fo’n rhesymol angenrheidiol iddi wneud hynny er mwyn sicrhau—

(a)

diogelwch yr awyren neu’r llestr, neu

(b)

iechyd a diogelwch unrhyw berson sydd arni.

(2)

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i—

(a)

awyren neu lestr a weithredir yn fasnachol ac nad yw’n cludo unrhyw deithwyr;

(b)

awyren neu lestr a weithredir gan Lywodraeth Ei Mawrhydi neu er mwyn cefnogi Llywodraeth Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig.

(3)

Yn y rheoliad hwn—

(a)

ystyr “cyrraedd” yw—

(i)

mewn perthynas ag awyren, glanio;

(ii)

mewn perthynas â llestr, angori yn unrhyw fanF2...;

(b)

ystyr “teithiwr” yw person a gludir mewn awyren neu ar lestr ac eithrio aelod o’i chriw.