Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

[F1Mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3ALL+C

12E.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gofyniad ynysu (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2)) yn cael ei osod ar berson (“P”) am fod P—

(a)wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A, neu

(b)wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

(2) Mae rheoliadau 7(1) ac 8(1) i’w darllen mewn perthynas â P fel pe bai cyfeiriadau at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” yn gyfeiriadau at “gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A”.

(3) Mae’r gofyniad ynysu sydd wedi ei osod ar P yn rhinwedd rheoliad 7(1) neu 8(1) fel y’i haddesir gan baragraff (2), hefyd wedi ei osod ar bob aelod o aelwyd P.

(4) Er gwaethaf rheoliad 9(2), mae rheoliadau 7 ac 8 yn gymwys i P.

(5) Nid yw aelod o aelwyd P wedi ei esemptio rhag y gofyniad i ynysu yn rhinwedd rheoliad 9(2).

(6) Yn unol â hynny nid yw P nac unrhyw aelod o aelwyd P i’w drin fel person a ddisgrifir mewn unrhyw baragraff o Atodlen 2.

(7) At ddibenion rheoliad 10, mae aelod o aelwyd P i’w drin fel pe bai P oedd y person hwnnw.

(8) Mae rheoliad 10 yn gymwys i P (ac aelod o aelwyd P yn rhinwedd paragraff (7)) fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (4) o’r rheoliad hwnnw—

(4) Caiff P adael y fangre a bod y tu allan iddi—

(a)cyhyd ag y bo’n angenrheidiol—

(i)i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen hynny ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;

(ii)i osgoi salwch difrifol, anaf difrifol neu risg arall o niwed difrifol;

(iii)i gyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(b)os yw’n ofynnol iddo wneud hynny gan gwnstabl;

(c)i deithio at ddiben gadael Cymru.

[F2(9) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan, o ran P—

(a)mae’n weithiwr cludiant ffyrdd (o fewn yr ystyr a roddir ym mharagraff 6 o Atodlen 2),

(b)bu ddiwethaf ym Mhortiwgal o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, ac

(c)nid yw, yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi bod mewn unrhyw wlad neu diriogaeth arall a restrir yn Atodlen 3A.]]