Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

[F1RHAN 3CLL+CTeithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A

Gwahardd awyrennau a llestrau sy’n teithio’n uniongyrchol o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A rhag cyrraeddLL+C

12F.[F2(1) Ni chaiff y person sy’n rheoli awyren neu lestr neu sydd â rheolaeth dros awyren neu lestr yr oedd ei man ymadael diwethaf neu ei fan ymadael diwethaf yn wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A beri na chaniatáu i’r awyren neu’r llestr gyrraedd Cymru, oni bai—

(a)ei bod yn rhesymol angenrheidiol iddi neu iddo wneud hynny er mwyn sicrhau diogelwch yr awyren neu’r llestr neu iechyd a diogelwch unrhyw berson ar ei bwrdd neu ar ei fwrdd;

(b)mai dim ond at ddiben ail-lenwi’r awyren neu’r llestr â thanwydd, neu gynnal a chadw’r awyren neu’r llestr, y mae’n cyrraedd Cymru, ac na chaniateir i unrhyw deithwyr fynd ar fwrdd yr awyren neu’r llestr neu ddod oddi ar yr awyren neu’r llestr;

(c)mai ambiwlans awyr yw’r awyren a’i fod yn glanio at ddiben cludo person i gael triniaeth feddygol; neu

(d)bod cyrraedd yn ofynnol fel arall yn unol â chyfarwyddyd a ddyroddir o dan Atodlen 3A i Ddeddf Llongau Masnach 1995.]

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i—

(a)awyren a weithredir yn fasnachol neu lestr a weithredir yn fasnachol nad yw’n cludo unrhyw deithwyr;

(b)awyren neu lestr a weithredir gan Lywodraeth ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig neu i’w chefnogi;

(c)awyren neu lestr a oedd mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A ddiweddaf 11 o ddiwrnodau neu ragor cyn cyrraedd Cymru.

(3) Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “cyrraedd” yw—

(i)mewn perthynas ag awyren, glanio;

(ii)mewn perthynas â llestr, angori yn unrhyw fan;

(b)ystyr “teithiwr” yw person a gludir mewn awyren neu ar lestr ac eithrio aelod o’i chriw neu o’i griw.]